William Price (meddyg)
| William Price | |
|---|---|
Ffotograff o'r Dr. William Price ym 1871 | |
| Ganwyd | 4 Mawrth 1800 Rhydri |
| Bu farw | 23 Ionawr 1893 Llantrisant |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | meddyg, ymgyrchydd yn erbyn pigiadau |
Siartydd, meddyg ac arloeswr rhyddid personol o Gymru oedd y Dr William Price (4 Mawrth 1800 – 23 Ionawr 1893). Fe'i ganwyd yn Ty'n-y-coedcae, Sir Fynwy (Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach), yn fab i'r Parch. William Price a Mary ei wraig.[1] Fe'i haddysgwyd mewn ysgol ym Machen ac Ysbyty St Bartholomeus, Llundain a'r London Hospital. Daeth yn aelod o'r Coleg Llawfeddygol Brenhinol yn 1821. Bu'n feddyg yn Sir Forgannwg yn Nantgarw, Trefforest a Phontypridd, gan ddyfod yn enwog fel llawfeddyg.

Roedd o flaen ei amser yn ei syniadau cymdeithasol a safbwynt athronyddol. Daeth yn gymeriad adnabyddus yn ardal Pontypridd. Roedd yn llysieuwr ac yn noethlymunwr, er enghraifft. Roedd yn gefnogol i'r Siartwyr yn eu hymdrechion i ennill hawliau i'r gweithwyr a chodi eu safonau byw. Yn sgîl ymdaith y Siartwyr ar Gasnewydd ym 1839 ffoes i Ffrainc. Daeth i adnabod y bardd Heinrich Heine ym Mharis.
Enwodd ei fab yn Iesu Grist, gan fwriadol dorri tabŵ crefyddol; enillodd achos llys enwog i gael yr hawl i amlosgi ei fab a fu farw yn chwe mis oed. Ar 14 Mawrth 1884, pan oedd ar ganol paratoi i gorfflosgi ei fab, fe'i harestiwyd gan yr heddlu. Dywedodd yn y Llys nad oedd deddf dros gorfflosgi, ond nad oedd ychwaith unrhyw ddeddf yn gwahardd corfflosgi. Cytunodd y llys gydag ef a dychwelodd at y gwaith o gorfflosgi ei fab. Paratodd yr achos llys hwn y ffordd i ddeddfau Corfflosgiad 1902.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Islwyn ap Nicholas, A Welsh Heretic: Dr. William Price, Llantrisant (1973)
- Cyril Bracegirdle, Dr. William Price: Saint or Sinner? (Gwasg Carreg Gwalch, 1997)
- Dean Powell, Eccentric: The Life of Dr. William Price (Llantrisant: Dean Powell, 2005)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ John Cule, "The Eccentric Doctor William Price of Llantrisant", Morgannwg 7 (1963), tt.98–119
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Dr William Price", Llantrisant Town Trust
- "The Children", Llantrisant Town Trust
- "Gwenllian Llewelyn", Llantrisant Town Trust