Neidio i'r cynnwys

Noethlymuniaeth

Oddi ar Wicipedia
Noethlymuniaeth
Enghraifft o:mudiad cymdeithasol, mudiad athronyddol, gweithgaredd hamdden Edit this on Wikidata
Mathdiwylliant, noethni Edit this on Wikidata
CrefyddChristian naturism edit this on wikidata
Gwefanhttps://inf-fni.org Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/05hl8 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF22991 edit this on wikidata
QuoraNudism-and-naturism edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hen lun (1943) o noethlymunwyr yn Darwin
Marchogaeth naturiol

Yr hoffter gan rai pobl o fod heb ddillad amdanynt yw noethlymuniaeth. Mae'n wahanol i'r cyflwr syml o fod yn noeth am fod pobl yn dewis bod felly, dan do neu yn yr awyr agored, yn hytrach na gwisgo dillad.

Er bod unigolion a grwpiau bychan wedi bod wrthi ers canrifoedd yn noethlymuno, gellir olrhain yr ymarfer diweddar hwn yn ôl i'r 1920au yn yr Almaen. Roedd Eva Braun, cariad Adolf Hitler, yn noethlymunwraig frwd, er enghraifft. Cadw'n heini oedd y prif symbyliad yn yr Almaen, yn wahanol, felly, i'r noethlymunwyr yn Ffrainc a'u cysylltiad gyda gwyliau haf. Crewyd gwersylloedd a phentrefi cyfan yn unswydd er mwyn i noethlymunwyr gael gwyliau.

Sefydlwyd y clwb noethlymunwyr cyntaf yng ngwledydd Prydain yn Wickford, Essex, in 1924. Y traeth cyntaf i gael ei wneud yn draeth swyddogol ar gyfer yr ymarfer hwn oedd Fairlight Cove, Hastings, yn 1978.

Ni oddefir noethlymuniaeth ym mhob gwlad. Mae rhai gwledydd yn ei gwahardd yn llwyr ac eraill yn ei goddef dan reolau tynn. Y gwledydd mwyaf goddefol yw gwledydd Gogledd America ac Ewrop (yn cynnwys Rwsia).

Ymhlith y Cymry enwog sydd wedi ymarfer noethlymuniaeth y mae'r Dr. William Price, Augustus John a Gwen John.

Caniateir noethlymuno ar y traethau canlynol yng Nghymru[1]:

Cefn Sidan, Pen-bre (Sir Gaerfyrddin); Bae Rhosili (Penrhyn Gŵyr); Twyni Niwbwrch, ger Ynys Llanddwyn, a Bae Malltraeth (Ynys Môn); Marros a Twyni Cenffig (Kenfig Burrows) (De Cymru); Morfa Dyffryn (ger Harlech, Gwynedd).

Yn ogystal, cynhelir taith feicio noeth yng Nghaerdydd yn flynyddol.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwefan Naturist UK". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-20. Cyrchwyd 2008-08-25.
  2. Gwefan taith feicio noeth y byd Archifwyd 2010-06-26 yn y Peiriant Wayback Adalwyd ar 16-02-2010

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]