Anthony Trollope

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Anthony Trollope
Anthony Trollope NPG 12818.jpg
Ganwyd Anthony Trollope Edit this on Wikidata
24 Ebrill 1815 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 6 Rhagfyr 1882 Edit this on Wikidata (67 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth ysgrifennwr, hunangofiannydd, nofelydd, cofiannydd Edit this on Wikidata
Tad Thomas Trollope Edit this on Wikidata
Mam Frances Trollope Edit this on Wikidata
Priod Rose Heseltine Edit this on Wikidata
Plant Henry Merivale Trollope, Frederic James Anthony Trollope Edit this on Wikidata
Llofnod
Anthony Trollope signature.svg

Mae Anthony Trollope (24 Ebrill 1815 - 6 Rhagfyr 1882) yn cael ei gyfrif gan lawer fel y nofelydd Seisnig mwyaf llwyddiannus a chynhyrchiol yn y Cyfnod Fictoraidd. Mae ei gasgliad o waith a elwir yn Chronicles of Barsetshire yn ymwneud â bywyd yn y sir ddychmygol Barsetshire. Ysgrifennod nifer o nofelau ar themâu megis gwleidyddiaeth, cymdeithaseg a rhywedd.

Fe'i ganwyd yn Llundain, yn fab i'r bargyfreithiwr Thomas Anthony Trollope. Cafodd ei addysg yn Ysgol Harrow.

Yn 1835 cafodd swydd fel clerc yn y Swyddfa Bost.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Trollope yn 16 Keppel Street, Russell Square, Llundain [2] yn bedwerydd mab i'r Bargyfreithiwr Thomas Anthony Trollope (1774-1835) [3] a'r nofelydd ac awdur teithlyfrau Frances Trollope (née Milton) (1779-1863) [4]. Roedd yn frawd iau i'r hanesydd ac awdur Thomas Adolphus (Tom) Trollope (1810-1892).[5] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow, Ysgol Sunbury ac Ysgol Winchester.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Oherwydd trafferthion ariannol roedd ei dad yn methu talu ei ffioedd ysgol a chafodd Trollope ei dynnu allan o'r ysgol yn 15 oed. Wrth i ddyledion y teulu cynyddu bu raid i'r tad ffoi i Ffrainc i osgoi cael ei garcharu am ddyled, aeth ei deulu i ymuno ag ef gan fyw yn Bruges. Roedd Mrs Trollope yn ffrindiau gyda'r teulu Freeling, a oedd i raddau helaeth yn rheoli Swyddfa'r Post. Trwy'r cyfeillgarwch llwyddwyd cael swydd clerc i Trollope yn swyddfa'r ysgrifennydd ym mhencadlys y post yn Llundain ym 1834.[6]

Doedd ei gyfnod fel clerc yn y Swyddfa Bost ddim yn llwyddiannus iawn. Roedd yn cyrraedd y gwaith yn hwyr yn rheolaidd ac roedd cwynion am ddiffyg safon ei waith. Roedd arian yn cael ei dynnu allan o'i gyflog oherwydd ei aflerwch ac roedd yn aml dan rybudd o gael ei ddiswyddo. Ceir adleisiau o'i gyfnod fel clerc yn y llyfrau The Three Clerks, The Small House at Allington a Marion Fay. Roedd yn ei chael yn anodd byw ar ei gyflog a syrthiodd yn ysglyfaeth i fenthycwyr arian diegwyddor. Roedd ei fywyd cyffredinol yn llanast hefyd, roedd yn yfed yn ormodol ac yn cael perthnasau efo puteiniaid.

Wedi 7 mlynedd yn y Swyddfa Bost yn Llundain cafodd ei drosglwyddo i swydd fel dirprwy adolygydd swyddfeydd y post yn yr Iwerddon (a oedd yn rhan o'r Deyrnas Unedig ar y pryd). Gyda chodiad cyflog a chostau byw llawer rhatach nag yn Llundain daeth tro ar ei fyd wrth iddo symud i fyw i'r Iwerddon. Yn ogystal â newid ei ffordd afradlon o fyw, dechreuodd ysgrifennu gan gyhoeddi ei nofel gyntaf The Macdermots of Ballycloran ym 1843.[7]

Ym 1851 anfonwyd ef 'ar fenthyg' i ehangu'r gwasanaeth post gwledig yng ngorllewin Lloegr. Yn y cyfnod yma bu'n gyfrifol am greu system gyflenwi reolaidd ledled Gwlad yr Haf, Wiltshire, Dyfnaint, Cernyw, de Cymru, a thu hwnt. Bu hefyd yn gyfrifol am gyflwyno blychau llythyrau ar ochr y ffordd i wledydd Prydain gan godi'r cyntaf yn St Helier ym 1852.[8]

Wedi dychwelyd i'r Iwerddon dyrchafwyd Trollope yn arolygwr y post tros Ogledd yr Iwerddon ym 1854.[9] Erbyn 1859 roedd wedi cael cryn lwyddiant fel awdur, ond yn credu bod ei yrfa lenyddol yn cael ei rwystro rhywfaint gan ei fod yn byw mor bell o ganolfan y byd llenyddol yn Llundain. Symudodd yn ôl i Loegr i weithio fel arolygwr adran ddwyrain Lloegr o'r Swyddfa Bost, gan setlo i fyw yn Waltham Cross, tua 12 milltir (19 km) tu allan i Lundain ar y pryd.

Ymadawodd a'r Swyddfa Bost ym 1867, yn bennaf gan i ddyrchafiad roedd yn ei dymuno wedi ei roi i ddyn oedd yn is nag ef yn y gwasanaeth sifil ac a llawer llai o brofiad nag ef. Roedd hefyd yn ennill digon o'i waith llenyddol i allu hepgor ei hawl i bensiwn y gwasanaeth sifil, byddai'n cael ei golli wrth iddo ymddeol yn iau na 60 mlwydd oed. Roedd gan Trollope awydd i ddyfod yn AS, ond fel gwas sifil nid oedd yn cael sefyll etholiad, bu hynny yn chware ran yn ei benderfyniad i ymadael a'i swydd.[10]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn fuan wedi cyrraedd yr Iwerddon cyfarfu a Rose, merch Edward John Heseltine, bancwr, o Rotherham, Swydd Efrog a oedd yn aros yn Kingstown (Dún Laoghaire, bellach). Priododd y ddau ym 1844 a chawsant ddau fab.[2]

Ymgyrch etholiadol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1868, cytunodd Trollope i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol ym mwrdeistref Beverley, yn Nwyrain Swydd Efrog.[11]

Mae'n debyg bod arweinwyr y blaid wedi manteisio ar awydd Trollope i sefyll, a'i barodrwydd i wario arian ar ymgyrch. Roedd gan Beverley hanes hir o brynu pleidleisiau ac o fygythiadau gan gyflogwyr ac eraill. Olynwyd pob etholiad er 1857 gan ddeiseb yn honni llygredd, ac amcangyfrifwyd y byddai 300 o’r 1,100 o bleidleiswyr ym 1868 yn gwerthu eu pleidleisiau. Nid ennill yr etholiad oedd bwriad y Rhyddfrydwyr, ond cael ymgeisydd oedd yn gallu gwario swm uchel ar yr ymgyrch yn gyfreithiol i hudo'r ymgeiswyr Ceidwadol arddangos llygredd mwy amlwg na'r cyffredin, y gellid ei ddefnyddio wedyn i'w gwahardd ac i dynnu sylw at arferion dan din y Blaid Geidwadol.

Disgrifiodd Trollope ei gyfnod o ymgyrchu yn Beverley fel "pythefnos fwyaf truenus fy mywyd fel oedolyn". Gwariodd gyfanswm o £400 ar ei ymgyrch. Cynhaliwyd yr etholiad ar 17 Tachwedd 1868; gorffennodd y nofelydd yn olaf o bedwar ymgeisydd, gyda’r fuddugoliaeth yn mynd i’r ddau Geidwadwr. Cafodd deiseb ei gyflwyno, ac ymchwiliodd Comisiwn Brenhinol i amgylchiadau'r etholiad. Tynnodd ei ganfyddiadau o lygredd helaeth ac eang sylw ledled y wlad, ac arweiniodd at ddifreinio’r fwrdeistref ym 1870. Mae etholiad ffuglennol Percycross yn Ralph the Heir wedi'i seilio'n agos ar ymgyrch Beverley.[12]

Wedi'r profiad annymunol o sefyll yn Beverley rhoddodd Trollope y gorau i'w uchelgais o ddyfod yn AS a ni safodd etholiad eto.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Aflwyddiannus bu llyfrau cyntaf Trollope, The Macdermots of Ballycloran, The Kellys and the O'Kellys (dau lyfr wedi eu gosod yn yr Iwerddon) a La Vendée (stori am y chwyldro Ffrengig). Dim ond £10 wnaeth o werthiant argraffiad cyntaf o The Warden ei lyfr cyntaf yn y gyfres Chronicles of Barsetshire, ond cafodd The Warden clod beirniadol a arweiniodd at lwyddiant gwell i'w llyfrau olynol.

Wrth ysgrifennu ei ail nofel Barsetshire, Barchester Towers, dechreuodd defnyddio'r amser roedd yn ei wario ar deithio wrth ei waith i'r Swyddfa Bost trwy ysgrifennu ar y trên, yn hytrach na dim ond yn ei amser hamdden. Dechreuodd hefyd i gadw cyfrif o faint roedd yn ysgrifennu gyda'r bwriad o gynhyrchu 40 o dudalennau 250 gair pob wythnos. Arweiniodd hyn at allbwn toreithiog o lyfrau, fe ysgrifennodd bron i nawdeg i gyd.

Wedi clywed bod George Murray Smith a William Makepeace Thackeray am gyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd the Cornhill Magazine cynigiodd Trollope stori fer iddynt. Mewn ymateb cynigiodd Smith £1,000 iddo am nofel.[13] Ysgrifennodd Framley Parsonage a ymddangosodd yn y cylchgrawn ar ffurf stori gyfres. Daeth ei gysylltiad â'r Cornhill Magazine ac enwogrwydd mawr iddo. Ar ei uchaf roedd y cylchgrawn yn gwerthu tua 110,000 rhifyn. Fel storïau gyfres cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i nofelau wedyn.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bedd Trollope

Bu farw Trollope ym Marylebone, Llundain ym 1882 [14] ac mae wedi'i gladdu ym Mynwent Kensal Green, ger bedd ei gyfoeswr, Wilkie Collins.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth Anthony Trollope

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Trollope, Anthony (1883). An Autobiography. Chapter 2. Adalwyd 5 Tachwedd 2012.
  2. 2.0 2.1 "Trollope, Anthony (1815–1882), novelist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-27748. Cyrchwyd 2019-12-30.
  3. "Trollope, Thomas Anthony (1774–1835), barrister and author | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-27756. Cyrchwyd 2019-12-30.
  4. "Trollope [née Milton], Frances [Fanny] (1779–1863), travel writer and novelist | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-27751. Cyrchwyd 2019-12-30.
  5. "Trollope, Thomas Adolphus [Tom] (1810–1892), historian and writer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-27755. Cyrchwyd 2019-12-30.
  6. Trollope, Anthony (1905). "Pennod 3". Autobiography Of Anthony Trollope. t. 29.
  7. Byrne, P. F. (1992). "Anthony Trollope in Ireland," Dublin Historical Record, Cyfrol 45, Rhif. 2, tud. 126–128.
  8. "Pillar boxes". Trollope Society. Cyrchwyd 2019-12-30.
  9. "Anthony Trollope - Novelist, 1815-1882". web.archive.org. 2011-07-16. Cyrchwyd 2019-12-30.
  10. Super, R. H. (Robert Henry), 1914-1996. (1990). The chronicler of Barsetshire : a life of Anthony Trollope (arg. 1st paperback ed). Ann Arbor: University of Michigan Press. ISBN 0-472-08139-X. OCLC 24421832.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  11. "Modern Beverley: Political and Social History, 1835-1918 | British History Online". www.british-history.ac.uk. Cyrchwyd 2019-12-30.
  12. "Ralph the Heir: An Introduction". www.victorianweb.org. Cyrchwyd 2019-12-30.
  13. Payne, L. W. “Thackeray.” The Sewanee Review, vol. 8, no. 4, 1900, pp. 437–456. JSTOR
  14. http://search.findmypast.co.uk/results/world-records/england-and-wales-deaths-1837-2007?firstname=anthony&lastname=trollope&eventyear=1882&eventyear_offset=1