Gerard Manley Hopkins
Gwedd
| Gerard Manley Hopkins | |
|---|---|
| Ganwyd | 28 Gorffennaf 1844 Llundain, Stratford, Llundain |
| Bu farw | 8 Mehefin 1889 o peritonitis Dulyn |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | The Wreck of the Deutschland |
| Tad | Manley Hopkins |
| Mam | Kate Smith |
Bardd yn yr iaith Saesneg o Loegr o dras Gymreig oedd Gerard Manley Hopkins (28 Gorffennaf 1844 – 8 Mehefin 1889). Fe'i ganwyd yn Stratford, Essex.[1]
Gwnaeth ail gyflwyno strwythur mydryddol Hen Saesneg fel y'i ceir yn y gerdd hir Beowulf a gweithiau eraill. Galwodd Gerard Manley Hopkins y mydr hwn yn 'Sprung rhythm'. Arbrofai hefyd gyda'r gynghanedd, gan geisio ailgreu yn Saesneg y mesur Cymraeg traddodiadol.
Astudiodd Gerald Manley Hopkins yn Coleg Beuno Sant (coleg diwinyddol y Jeswitiaid) yn Nhremeirchion, Sir Ddinbych, rhwng 1874 a 1877.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- The Wreck of the Deutschland
- God's Grandeur
- As Kingfishers Catch Fire
- Pied Beauty
- Carrion Comfort
- The Windhover: To Christ our Lord
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eleanor Ruggles (1944). Gerard Manley Hopkins: A Life. Norton.