A. E. Housman
A. E. Housman | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | A. E. Housman ![]() |
Ganwyd | 26 Mawrth 1859 ![]() Swydd Gaerwrangon, Ardal Bromsgrove ![]() |
Bu farw | 30 Ebrill 1936 ![]() Caergrawnt ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, ieithegydd clasurol, ysgrifennwr, academydd, ysgolhaig clasurol ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | A Shropshire Lad ![]() |
Arddull | telyneg ![]() |
Bardd ac ysgolhaig y clasuron o Sais oedd Alfred Edward Housman (26 Mawrth 1859 – 30 Ebrill 1936). Ei gerddi enwocaf yw'r cylch A Shropshire Lad. Pesimistiaeth Ramantaidd a fynegir gan ei farddoniaeth, mewn arddull syml a chynnil.[1]
Ganwyd Housman yn Fockbury ger Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon. Bu farw ei fam ar ei benblwydd yn 12 oed, sy'n debyg yn un o wreiddiau'r besimistiaeth yn ei farddoniaeth. Astudiodd yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Sylweddolodd ei fod yn gyfunrywiol a bu'n cwympo mewn cariad ag un o'i gyfeillion. Er yr oedd yn ysgolhaig medrus, methodd ei arholiadau a ni enillodd ei radd.
O 1882 hyd 1892 gweithiodd fel clerc yn y Swyddfa Batent yn Llundain. Yn y nos bu'n astudio testunau Lladin yn narllenfa'r Llyfrgell Brydeinig. Ysgrifennodd erthyglau a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion, ac chafodd ei benodi'n athro Lladin yng Ngholeg Prifysgol, Llundain, ym 1892.
Enciliodd Housman yn emosiynol wrth iddo deimlo bu'n rhaid iddo fyw heb gariad. Dechreuodd ysgrifennu cerddi gydag ysbrydoliaeth gan Heinrich Heine, Shakespeare a baledi gororau'r Alban. Cafodd y cerddi hyn eu cyhoeddi fel A Shropshire Lad ym 1896.
Cafodd ei benodi'n athro Lladin ym Mhrifysgol Caergrawnt ym 1911. Ei gampwaith fel Lladinwr oedd argraffiad anodiadol o farddoniaeth Manilius (1903–30).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) A.E. Housman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.
- Academyddion Prifysgol Caergrawnt
- Academyddion Seisnig y 19eg ganrif
- Academyddion Seisnig yr 20fed ganrif
- Beirdd Seisnig y 19eg ganrif
- Beirdd Seisnig yr 20fed ganrif
- Beirdd Seisnig yn yr iaith Saesneg
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Sant Ioan, Rhydychen
- Genedigaethau 1859
- Llenorion LHDT
- Marwolaethau 1936
- Pobl o Swydd Gaerwrangon
- Ysgolheigion y clasuron
- Ysgolheigion Seisnig yn yr iaith Ladin
- Ysgolheigion Seisnig yn yr iaith Saesneg