Baledi gororau'r Alban

Oddi ar Wicipedia
Baledi gororau'r Alban
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol, song type Edit this on Wikidata
Mathballad, English folk music Edit this on Wikidata
Argraffiad o Minstrelsy of the Scottish Border gan Scott yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban.

Traddodiad llên lafar sy'n hanu o ororau'r Alban yn y 15fed a'r 16g yw baledi gororau'r Alban. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd ardaloedd ar y ffin rhwng Teyrnas yr Alban a Theyrnas Lloegr i bob pwrpas yn ddigyfraith. Noda hanes y goror gan ysbeiliadau'r Reivers, cynhennau'r teuluoedd lleol, a Rhyfeloedd yr Alban a Lloegr. Dethlir cyrchoedd y herwyr a brwydrau'r claniau gan y baledi gwerin hyn. Sonir rhai ohonynt am ddigwyddiadau hanesyddol o bwys, ond straeon dial yw'r mwyafrif ohonynt. Chwedlau lleol yw nifer ohonynt, straeon nad yw'n wir ond sy'n cyfeirio at enwau lleoedd a theuluoedd yr ardal ac sy'n ymwneud â thraddodiadau a bywydau'r werin. Thema ramantaidd sydd i ambell baled: llathrudd a phriodas ffo.[1] Cenir yn Sgoteg neu dafodiaith Saesneg gogledd-ddwyrain Lloegr.[2]

Sbardunodd yr Oes Ramantaidd ddiddordeb mewn llên a chelfyddyd draddodiadol y werin. Ymgasglodd Syr Walter Scott nifer o faledi'r gororau dan yr enw Minstrelsy of the Scottish Border.[3]

Cenir baledi'r gororau gan deuluoedd yr ardal am ganrifoedd. Bu enwau'r arwyr a'r dihirod yn gyfarwydd i werin y goror, yn fwyfwy oherwydd mae nifer o'r cyfenwau yn goroesi hyd heddiw: Armstrong, Graham, Robson, Elliot, Fenwick, Rutherford, Noble, a Reed, er enghraifft. Daeth hen eiriau a glywir yn y baledi yn rhan o'r dafodiaith leol.[2]

Rhestr[golygu | golygu cod]

  • "The Bonny Earl of Murray"
  • "The Fray Of Hautwessel"
  • "Hobie Noble"
  • "Jock o' the Side"
  • "Johnny Cock"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) border ballad. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Awst 2016.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Reivers and Heroes: Borders in the Romantic Age – Border Ballads Archifwyd 2014-12-30 yn y Peiriant Wayback. (Prifysgol Newcastle). Adalwyd ar 24 Awst 2016.
  3. (Saesneg) Minstrelsy of the Scottish Border (Llyfrgell Prifysgol Caeredin). Adalwyd ar 24 Awst 2016.