Alfred, Arglwydd Tennyson
| Alfred, Arglwydd Tennyson | |
|---|---|
| Ganwyd | 6 Awst 1809 Somersby, Swydd Lincoln |
| Bu farw | 6 Hydref 1892 Aldworth, Haslemere |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, gwleidydd, ysgrifennwr |
| Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig |
| Adnabyddus am | The Charge of the Light Brigade, The Lady of Shalott, Idylls of the King, The Princess |
| Tad | George Clayton Tennyson |
| Mam | Elizabeth Fytch |
| Priod | Emily Tennyson, Arglwyddes Tennyson |
| Plant | Hallam Tennyson, Lionel Tennyson, Unnamed Tennyson |
| Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Chancellor's Gold Medal |
Bardd o Loegr oedd Alfred, Arglwydd Tennyson (6 Awst 1809 – 6 Hydref 1892). Daeth yn un o feirdd amlycaf yr iaith Saesneg yn y 19g.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Alfred Tennyson yn Somersby yn Swydd Lincoln, yn fab i reithor a'r pedwerydd o ddeuddeg o blant. Aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt yn 1828, lle daeth Arthur Henry Hallam yn gyfaill agos iddo. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth yn 1827, Poems by Two Brothers, yn cynnwys cerddi gan ei frawd Charles hefyd. Gadawodd y coleg yn 1831 ar farwolaeth ei dad. Yn 1833, cyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth yn cynnwys ei gerdd adnabyddus The Lady of Shalott, ond roedd ymateb y beirniaid mor negyddol fel na chyhoeddodd ddim pellach am ddeng mlynedd. Yn nes ymlaen, daeth ei farddoniaeth yn eithriadol o boblogaidd, yn enwedig In Memoriam A.H.H. (1850), er cof am Arthur Hallam. Apwyntiwyd ef i swydd Fardd Llawryfog yr un flwyddyn, yn olynydd i William Wordsworth. Ymhlith ei weithiau mwyad adnabyddus mae "The Charge of the Light Brigade" ac Idylls of the King, cylch o gerddi ar destunau Arthuraidd. Roedd y frenhines Victoria yn edmygydd mawr o'i waith, a gwnaed ef yn farwn yn 1884.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]| Rhagflaenydd: William Wordsworth |
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig 19 Tachwedd 1850 – 6 Hydref 1892 |
Olynydd: Alfred Austin |