Wilkie Collins

Oddi ar Wicipedia
Wilkie Collins
Ganwyd8 Ionawr 1824 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw23 Medi 1889 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr, nofelydd, dramodydd, bardd-gyfreithiwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Woman in White, The Moonstone Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth Gothig Edit this on Wikidata
TadWilliam Collins Edit this on Wikidata
MamHarriet Geddes Edit this on Wikidata
PriodMartha Rudd, Caroline Compton Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://wilkiecollins.com Edit this on Wikidata
llofnod
Wilkie Collins, 1850

Nofelydd Saesneg oedd William Wilkie Collins (8 Ionawr 182423 Medi 1889). Ganed ef yn Llundain, yn fab hynaf i'r arlunydd enwog, William Collins.

Ei hanes[golygu | golygu cod]

Treuliodd gyfnod yn gweithio fel clerc wedi iddo adael yr ysgol yn 17 mlwydd oed cyn mynychu Lincoln's Inn fel myfyriwr Y Gyfraith yn 1846. Ystyriodd yrfa fel arlunydd ond wedi iddo gyhoeddi llyfr yn son am hanes bywyd ei dad, yn 1850, a'r nofel Antonina, yn 1851, sicrhawyd ei ddyfodol fel awdur llewyrchus. Ni wnaeth Collins briodi, ond bu'n byw a gweddw, Mrs Caroline Graves, o 1858 hyd ei farwolaeth. Hefyd, cafodd dri phlentyn gan wraig ifancach, Martha Rudd; fe'i cadwodd hi mewn sefydliad arall. Roedd Collins yn dioddef o'r gymalwst rhiwmatig (rheumatic gout), math o grydcymalau a'i drodd yn glaf yn ei flynyddoedd olaf. Yn ogystal, magodd gaethiwed at y laudanum a gymerodd i leddfu'r boen.

Ei waith llenyddol[golygu | golygu cod]

Mae sawl un o'r farn mai Collins ddechreuodd genre'r nofelau ditectif a mae'r rhan fwyaf o'i weithiau enwocaf yn perthyn i'r symudiad cyffrogarol (sensationalism) a oedd yn boblogaidd ar y pryd. Roedd Collins yn ffrindiau mawr a Charles Dickens, nofelydd amlyca'r cyfnod ym marn llawer.

Addasiadau[golygu | golygu cod]

Yn 2004, agorodd addasiad o nofel enwocaf Collins, The Woman in White, ar lwyfan y Palace Theatre yn Llundain fel sioe gerdd. Cyfansoddwyd y sioe gan Andrew Lloyd Webber ac addaswyd y testun gwreiddiol gan Charlotte Jones a David Zippel.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]