Leigh Hunt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Leigh Hunt
Leigh Hunt.jpg
Ganwyd James Henry Leigh Hunt Edit this on Wikidata
19 Hydref 1784 Edit this on Wikidata
Southgate Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Awst 1859 Edit this on Wikidata (74 oed)
Putney Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth newyddiadurwr, Bardd, hunangofiannydd, Ysgrifennwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Ysgrifwr, beirniad llenyddol a theatr, newyddiadurwr, a bardd o Sais oedd James Henry Leigh Hunt (19 Hydref 178428 Awst 1859) sy'n nodedig am ei gyfraniadau radicalaidd at gyfnodolion ac am ei gyfeillgarwch â'r beirdd Rhamantaidd Saesneg yn hanner cyntaf y 19g. Ei farddoniaeth amlycaf ydy'r telynegion Abou Ben Adhem a Jenny Kissed Me (1838) a'r gerdd hir The Story of Rimini (1816).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd James Henry Leigh Hunt ar 19 Hydref 1784 yn Southgate, Middlesex.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Juvenilia, yn 1801. Efelychir mydryddiaeth y Ffrancod a'r Eidalwyr yn ei farddoniaeth. Cyhoeddwyd nifer o'i gerddi gorau yn y cyfrolau Foliage (1818) a Hero and Leander, and Bacchus and Ariadne (1819).

Newyddiaduraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyda'i frawd John, lansiodd yr Examiner yn 1808, cylchgrawn wythnosol a oedd yn dadlau dros ddiddymiaeth, rhyddfreinio'r Catholigion, a diwygio'r Senedd a'r gyfraith droseddol. Ysgrifennodd Hunt erthyglau gwleidyddol a beirniadaeth theatr a'r celfyddydau cain ar gyfer y cyfnodolyn chwarterol Reflector yn 1810–11. Carcharwyd y brodyr Hunt yn 1813 am iddynt ladd ar Siôr, y Rhaglyw Dywysog. Parhaodd Leigh Hunt i ysgrifennu ar gyfer yr Examiner yn y ddalfa.[1]

Fe'i rhyddhawyd o'r carchar yn 1815 a symudodd i Hampstead, ac yno yn gymydog i'r bardd Rhamantaidd John Keats. Yn ddiweddarach daeth hefyd yn gyfarwydd â Rhamantwr arall, Percy Bysshe Shelley, a bu'n hyrwyddo gwaith llenyddol ei gyfeillion yn yr Examiner. Aeth Hunt i'r Eidal yn 1822 i ymuno â Keats a Shelley, ac yno sefydlasant cylchgrawn The Liberal (1822–23), a fu'n fethiant.

Cyhoeddodd nifer o'i ysgrifau gwychaf yn yr Indicator (1819–21) a'r Companion (1828), a bu'n cyfrannu at gyfnodolion eraill am weddill ei oes, yn eu plith y Tatler (1830–32) a'r London Journal (1834–35). Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 1850. Bu farw yn Putney ar 28 Awst 1859 yn 74 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Leigh Hunt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Awst 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ann Blainey, Immortal Boy: A Portrait of Leigh Hunt (Llundain: Croom Helm, 1985).
  • Edmund Blunden, Leigh Hunt: A Biography (Llundain: Cobden-Sanderson, 1930).
  • Anthony Holden, The Wit in the Dungeon: Leigh Hunt and His Circle (Llundain: Little, Brown, 2005).
  • James R. Thompson, Leigh Hunt (Boston: Twayne, 1977).