Strabo
Strabo | |
---|---|
Ganwyd | c. 63 CC Amasia |
Bu farw | c. 23 Amasia |
Galwedigaeth | daearyddwr, hanesydd, athronydd, ysgrifennwr |
Adnabyddus am | Geographica |
Daearyddwr Groegaidd oedd Strabo (c. 64 CC - c. 19 OC). Roedd yn enedigol o Amaseia, Pontus, yn Asia Leiaf, a flodeuai yn amser yr ymerawdwyr Cesar Awgwstws a Tiberiws
Ganwyd Strabo yn fab i rieni gweddol dda eu byd yn Amaseia, yn Pontus, hen dalaith Roeg yn Asia Leiaf a oedd erbyn hynny'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Astudiodd yn gyntaf dan diwtoriaeth yr athronydd crwydr (peripatetig) Xenarchus (fl. diwedd y 1af ganrif CC). Fel ei athro roedd yn arddel Stoïciaeth, athroniaeth y Stoïciaid. Ar ôl gorffen ei addysg ymroddodd i astudiaethau hanes a daearyddiaeth. Teithiodd yn eang gan ymweld â rhan helaeth o Asia Leiaf, yr Aifft hyd at gyffiniau Ethiopia, sawl ardal yng Ngwlad Groeg, a hefyd yr Eidal, gan gynnwys y brifddinas Rhufain. Gyda'i raglaenydd Ptolemi mae Strabo yn cael ei ystyried yn dad Daearyddiaeth. Ysgrifennodd sawl llyfr, gan gynnwys llyfr hanes pwysig mewn 47 llyfr, a oedd yn parhad o waith Polybius o'r 5fed llyfr ymlaen; darnau a dyfyniadau yn unig sydd wedi goroesi. Dim ond ei Γεωγραφικά (Geographica, "Daearyddiaeth") sydd wedi goroesi'n destun gweddol gyflawn. Yn ffodus y llyfr hwnnw yw ei gampwaith.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- F.W. Hall, A Companion to Classical Texts (Rhydychen, 1913)
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902)