Uttarakhand
| Math | talaith India |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | gogledd |
| Prifddinas | Dehradun |
| Dinas fwyaf | Dehradun |
| Poblogaeth | 10,086,292 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Pushkar Singh Dhami |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | India |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 53,566 km² |
| Yn ffinio gyda | Uttar Pradesh, Himachal Pradesh, Haryana, Far-Western Development Region |
| Cyfesurynnau | 30.5111°N 78.9539°E |
| IN-UK | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Uttarakhand Legislative Assembly |
| Corff deddfwriaethol | Uttarakhand Legislative Assembly |
| Pennaeth y wladwriaeth | Krishan Kant Paul |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Uttarakhand |
| Pennaeth y Llywodraeth | Pushkar Singh Dhami |
![]() | |
Mae Uttarakhand (Hindi: उत्तराखंड), a adnabyddid fel Uttaranchal o 2000 hyd 2006, yn dalaith yn India. Uttarakhand oedd y 27ain o daleithiau India i ddod i fodolaeth, ar 9 Tachwedd, 2000, wedi ei ffurfio o diriogaethau oedd cynt yn rhan o Uttar Pradesh. Mae'n ffinio â Tibet yn y gogledd a Nepal yn y dwyrain, a hefyd â thaleithiau Himachal Pradesh yn y gorllewin ac Uttar Pradesh yn y de.
Prifddinas y dalaith ar hyn o bryd yw Dehra Dun. Mae'r boblogaeth frodorol yn ei galw eu hunain yn Garhwali/Kumaoni, ac mae dros 90% ohonynt yn ddilynwyr Hindwaeth. Roedd y boblogaeth yn 8,479,562 yn 2001. Mae'r rhan ogleddol o'r dalaith yn rhan o'r Himalaya; y mynydd uchaf yw Nanda Devi (7816 m.).Yn Uttarakhand mae Afon Ganga ac Afon Yamuna yn tarddu, yn Gangotri a Yamunotri, sy'n gyrchfannau pererinion. Mae Haridwar hefyd yn gyrchfan boblogaidd. Ceir nifer o barciau cenedlaethol yma, yn cynnwys Parc Cenedlaethol Jim Corbett yn Ramnagar, yr hynaf o barciau cenedlaethol India.

| Taleithiau a thiriogaethau India | |
|---|---|
| Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
| Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |

