Nanda Devi
Gwedd
| Math | mynydd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Chamoli district |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 7,816 metr |
| Cyfesurynnau | 30.3739°N 79.9708°E |
| Amlygrwydd | 3,139 metr |
| Cadwyn fynydd | Himalaya |
![]() | |
Mynydd yn yr Himalaya yw Nanda Devi. Saif yn Uttarakhand, India. Gydag uchder o 7,816m, Nanda Devi yw mynydd ail-uchaf India.
Amgylchynir copa Nanda Devi gan gylch o fynyddoedd uchel, sy'n gwneud yr ardal yn un anodd cyrraedd ati. Mae'r ardal yn awr yn ffurfio Parc Cenedlaethol Nanda Devi, a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Dringwyd y mynydd gyntaf yn 1936 gan H.W. Tilman a Noel Odell. Hwn oedd y copa uchaf a ddringwyd hyd at 1950, pan ddringwyd Annapurna.
