Delhi

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tiriogaeth Genedlaethol Delhi)
Jump to navigation Jump to search
Delhi
Akshardham Delhi.jpg
Emblem of India.svg
Mathmega-ddinas, tiriogaeth India, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
PrifddinasDelhi Newydd Edit this on Wikidata
Poblogaeth26,495,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Pennaeth llywodraethArvind Kejriwal Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hindi, Saesneg, Punjabi, Wrdw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIndo-Gangetic Plain, Yamuna-Ganga Doab Edit this on Wikidata
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd1,484 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr200 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaUttar Pradesh, Haryana Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.7°N 77.2°E Edit this on Wikidata
Cod post110000–110999 Edit this on Wikidata
IN-DL Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCynulliad Deddfwriaethol Delhi Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Deddfwriaethol Delhi Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethAnil Baijal Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Uwch Weinidog Delhi Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethArvind Kejriwal Edit this on Wikidata
Gweler hefyd: Delhi (gwahaniaethu)

Ardal fetropolitaidd yng ngogledd India yw Delhi, yn swyddogol Tiriogaeth y Brifddinas Genedlaethol (NCT), sydd hefyd yn 'diriogaeth undeb India' sy'n cynnwys Delhi Newydd, prifddinas India, Hen Ddelhi, a'u maestrefi.[1] Mae arwynebedd yr NCT yn 1,484 cilomedr sgwâr (573 metr sgwâr). Lleolir Delhi ar lannau Afon Yamuna rhwng talaith Uttar Pradesh i'r dwyrain a thalaith Haryana ar y dair ochr arall. Mae ganddi boblogaeth o tua 26,495,000 (2016)[2].[3] Bellach ystyrir bod ardal drefol Delhi yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau NCT, ac yn cynnwys dinasoedd-lloeren cyfagos Ghaziabad, Faridabad, Gurgaon a Noida mewn ardal o'r enw'r Brifddinas-Ranbarth Cenedlaethol (NCR), gan ei gwneud yn ardal drefol ail-fwyaf y byd (yn 2021) yn ôl y Cenhedloedd Unedig.[4]

Delhi yw'r ddinas ail gyfoethocaf yn India ar ôl Mumbai ac mae'n gartref i 18 biliwnydd a 23,000 miliwnydd.[5] Delhi yw'r pumed talaith a thiriogaethau undeb yn India, o ran mynegai datblygiad dynol, ac mae ganddi’r CMC y pen (neu 'GDP per capita') ail uchaf yn India.[6]

Mae hi o arwyddocâd hanesyddol mawr fel dinas fasnachol, o ran trafnidiaeth ac yn ddiwylliannol, yn ogystal â bod yn ganolfan wleidyddol India.[7] Mae Delhi yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd, ac mae pobl wedi byw yno'n barhaus ers y 6g CC.[8] Trwy'r rhan fwyaf o'i hanes, mae Delhi wedi gwasanaethu fel prifddinas amryw o deyrnasoedd ac ymerodraethau, yn fwyaf arbennig y Pandavas, Swltaniaeth Delhi a'r Ymerodraeth Mughal. Mae'r ddinas wedi cael ei chipio, ei llorio a'i hailadeiladu sawl gwaith, yn enwedig yn ystod y cyfnod canoloesol, ac mae Delhi fodern yn glwstwr o nifer o ddinasoedd sydd wedi'u gwasgaru ar draws y rhanbarth metropolitan. Am ganrifoedd lawer mae Delhi wedi bod yn brif ganolfan fasnachol yng ngogledd India, ac ar ôl 1990au mae wedi dod i'r amlwg fel canolfan bwysig yn y rhwydwaith corfforaethol ac ariannol rhyngwladol.[9]

Fel 'tiriogaeth undeb', caiff ei rheoli'n ffederal gan Lywodraeth ganol India. Mae gweinyddiaeth wleidyddol NCT Delhi heddiw'n debyg i wladwriaeth India, gyda'i deddfwrfa ei hun, yr uchel lys a chyngor gweithredol gweinidogion dan arweiniad Prif Weinidog. Gweinyddir Delhi Newydd ar y cyd gan lywodraeth ffederal India a llywodraeth leol Delhi, ac mae'n gwasanaethu fel prifddinas y genedl yn ogystal â NCT Delhi. Cynhaliodd Delhi y Gemau Asiaidd cyntaf 1951, Gemau Asiaidd 1982, Uwchgynhadledd NAM 1983, Cwpan y Byd Hoci Dynion 2010, Gemau'r Gymanwlad 2010, Uwchgynhadledd BRICS 2012 ac roedd yn un o brif ddinasoedd cynnal Cwpan y Byd Criced 2011.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r enw 'Delhi' yn ôl y chwedl yn deillio o Dhillu neu Dilu, brenin a adeiladodd ddinas yn y lleoliad hwn yn 50 BCE a'i enwi ar ei ôl ei hun. [10][11][12] Mae chwedl arall yn mynnu bod enw'r ddinas wedi'i seilio ar y gair Hindi / Prakrit 'dhili' ("rhydd") a'i bod wedi'i defnyddio gan y Tomaras i gyfeirio at y ddinas oherwydd bod gan biler haearn Delhi sylfaen wan a bod yn rhaid ei symud.[12] Enw'r ddinas ar adeg y Brenin Prithviraj oedd "Dilpat", ac mae’n debyg bod 'dilpat' a 'dilli' yn deillio o’r hen air Hindi 'dil' sy’n golygu “bryncyn” neu "godiad tir". Soniodd cyn gyfarwyddwr Arolwg Archeolegol India, Alexander Cunningham, i'r enw 'dilli', yn ddiweddarach, droi'n "Dihli / Dehli".[13]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfnodau Canoloesol Hynafol a Chynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg bod pobl wedi byw yn yr ardal o amgylch Delhi cyn yr ail mileniwm BCE ac mae tystiolaeth o breswylio parhaus ers y 6ed ganrif BCE o leiaf.[8] Credir bod y ddinas yn safle Indraprastha, prifddinas chwedlonol y Pandavas yn yr epig Indiaidd Mahabharata. Yn ôl y Mahabharata, roedd y tir hwn i ddechrau yn fàs enfawr o goedwigoedd o'r enw 'Khandavaprastha' a losgwyd i lawr gan y Pandavas i adeiladu dinas Indraprastha.[10]

Mae'r creiriau pensaernïol cynharaf yn dyddio'n ôl i gyfnod Maurya (tua 300 BCE); ym 1966, darganfuwyd arysgrif o'r Ymerawdwr Mauryan Ashoka (273–235 BCE) ger Srinivaspuri. Gellir gweld olion sawl dinas fawr yn Delhi. Roedd y cyntaf o'r rhain yn rhan ddeheuol Delhi heddiw. Sefydlodd y Brenin Anang Pal o linach Tomara ddinas Lal Kot yn 736 CE. Gorchfygodd Prithviraj Chauhan Lal Kot ym 1178 a'i ailenwi'n Qila Rai Pithora.

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorchfygwyd y brenin Prithviraj Chauhan ym 1192 gan Muhammad Ghori yn ail frwydr Tarain, goresgynnwr o Affganistan, a wnaeth ymdrech ar y cyd i goncro gogledd India.[10] Erbyn 1200, roedd y pwer brodorol Hindŵaidd wedi gwanhau, ac daeth y goresgynwyr Mwslimaidd yn fuddugol. Byddai goruchafiaeth newydd Mwslimaidd Tyrcig tramor yng ngogledd India yn para am y pum canrif nesaf.[10]

Cafodd y cadfridog Qutb-ud-din Aibak, y cyfrifoldeb o lywodraethu tiriogaethau gorchfygedig India nes i Ghori ddychwelyd i'w brifddinas, Ghor. Pan fu farw Ghori heb etifedd yn 1206 CE, rhannwyd ei diriogaethau, gyda chadfridogion amrywiol yn hawlio sofraniaeth dros wahanol ardaloedd. Cymerodd Qutb-ud-din reolaeth ar eiddo Indiaidd Ghori, a gosod sylfaen Sultanate Delhi a llinach Mamluk. Dechreuodd adeiladu mosg Qutb Minar a Quwwat-al-Islam ("Cryfder Islam"), y mosg cynharaf sy'n bodoli yn India. Ei olynydd, Iltutmish (1211–1236), a gynorthwyodd yng nghoncwest y Turkic yng ngogledd India. Dilynodd Razia Sultan, sef merch Iltutmish, ef fel Sultan Delhi. Hi oedd y fenyw gyntaf a'r unig fenyw i reoli Delhi cyn y Raj Prydeinig.[18]

Am y tri chan mlynedd nesaf, rheolwyd Delhi gan olyniaeth o Turkic ac linach Afghanistan, Lodi. Fe wnaethant adeiladu sawl cae a threfgordd sy'n rhan o saith dinas Delhi. Roedd Delhi yn brif ganolfan Sufism yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd Delhi ei gipio a’i chwalu gan Timur ym 1398, a laddodd 100,000 o garcharorion.[19][20] Parhaodd dirywiad Delhi o dan linach Sayyid (1414–1451), nes i'r swltanad gael ei leihau i Delhi'n unig. O dan linach Lodi Afghanistan (1451–1526), fe adferodd swltanad Delhi reolaeth ar y Punjab a’r gwastadedd Gangetig i sicrhau goruchafiaeth unwaith eto dros Ogledd India. Fodd bynnag, byrhoedlog oedd yr adferiad a dinistriwyd y swltanad ym 1526 gan Babur, sylfaenydd llinach Mughal.

Cyfnod y British Raj[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1803, yn ystod yr Ail Ryfel Eingl-Maratha, trechodd lluoedd Cwmni Dwyrain India Prydain (neu'r East India Company) luoedd Maratha ym Mrwydr Delhi.[21]

Yn ystod Gwrthryfel India ym 1857, cwympodd Delhi i luoedd y 'British East India Company ar ôl ymladd gwaedlyd "Brwydr Gwarchae Delhi". Daeth y ddinas dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Prydain ym 1858. Fe'i gwnaed yn dalaith ardal y Punjab. Ym 1911, cyhoeddwyd bod prifddinas tiriogaethau Prydain yn India i gael ei throsglwyddo o Calcutta i Delhi.[22]

Bathwyd yr enw "New Delhi" ym 1927, a chafodd y brifddinas newydd ei sefydlu ar 13 Chwefror 1931. Cyhoeddwyd Delhi Newydd, a elwir hefyd yn "Lutyens 'Delhi", yn swyddogol fel prifddinas Undeb India ar ôl i'r wlad ennill annibyniaeth ar 15 Awst 1947.[23][24]

Yn ystod rhaniad India gan Brydain (a ranwyd y wlad yn India a Phacistan[25]), ffodd miloedd o ffoaduriaid Hindŵaidd a Sikhaidd, yn bennaf o Orllewin Punjab i Delhi, tra ymfudodd llawer o drigolion Mwslimaidd y ddinas i Bacistan. Mae'r ymfudo i Delhi o weddill India yn parhau (yn 2021), gan gyfrannu mwy at gynnydd poblogaeth Delhi na'r gyfradd genedigaethau, sy'n gostwng.[26]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "The Constitution (Sixty-Ninth Amendment) Act, 1991". Ministry of Law and Justice, Government of India. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Awst 2016. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2014.
  2. "Census Profile, 2016 Census". Cyrchwyd 22 Chwefror 2018.
  3. India Stats: Million plus cities in India as per Census 2011. Adalwyd 9 Mawrth 2013.
  4. "The World's Cities in 2016" (PDF). United Nations. October 2016. t. 4. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2017. Cyrchwyd 4 Mawrth 2017.
  5. "Mumbai richest Indian city with total wealth of $820 billion, Delhi comes second: Report". The Indian Express. 27 Chwefror 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Chwefror 2017. Cyrchwyd 28 Chwefror 2017.
  6. "This study settles the Delhi versus Mumbai debate: The Capital's economy is streets ahead". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2018.
  7. Pletcher, Kenneth (1 April 2010). The Geography of India: Sacred and Historic Places Understanding India. Britannica Educational Publishing. t. 114. ISBN 978-1-615-30202-4. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2020.
    Prakasa Rao, Vaddiparti Lova Surya; Sundaram, K.V.; Ram, Vernon, Delhi, https://www.britannica.com/place/Delhi, adalwyd 5 Gorffennaf 2020, "Delhi is of great historical significance as an important commercial, transport, and cultural hub, as well as the political centre of India."
    Seth, Himanshu; Sorathia, Keyur (21 Mawrth 2013). "ZOR SE BOLO: Interactive installations for Airport, providing a linguistic tour of New Delhi". Institute of Electrical and Electronics Engineers (Kharagpur): 1–7. doi:10.1109/IHCI.2012.6481861. ISBN 978-1-4673-4369-5. https://ieeexplore.ieee.org/abstract/document/6481861/keywords#keywords. Adalwyd 11 Gorffennaf 2020.
  8. 8.0 8.1 Asher, Catherine B (2000) [2000]. "Chapter 9:Delhi walled: Changing Boundaries". In James D. Tracy (gol.). City Walls. Cambridge University Press. tt. 247–281. ISBN 978-0-521-65221-6. Cyrchwyd 1 November 2008.
  9. Pletcher, Kenneth (1 Ebrill 2010). The Geography of India: Sacred and Historic Places Understanding India. Britannica Educational Publishing. t. 119. ISBN 978-1-615-30202-4. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2020.
    Prakasa Rao, Vaddiparti Lova Surya; Sundaram, K.V.; Ram, Vernon, Delhi – Economy, https://www.britannica.com/place/Delhi/Economy, adalwyd 5 Gorffennaf 2020, "For many centuries Old Delhi has been a dominant trading and commercial centre in northern India. Since the 1990s New Delhi has emerged as an important node in the international corporate and financial network."
    Encyclopaedia Britannica, Inc. (1 Mawrth 2009). Britannica Guide to India. Encyclopaedia Britannica, Inc. tt. 379–380. ISBN 978-1-593-39847-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2020.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 "Chapter 1: Introduction" (PDF). Economic Survey of Delhi, 2005–2006. Planning Department, Government of National Capital Territory of Delhi. tt. 1–7. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 November 2016. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2011.
  11. Bakshi, S.R. (1995) [2002]. Delhi Through Ages. Whispering Eye Bangdat. t. 2. ISBN 978-81-7488-138-0.
  12. 12.0 12.1 Smith, George (1882). The Geography of British India, Political & Physical. J. Murray. tt. 216–217. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2008. raja delhi BC.
  13. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Gorffennaf 2020. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2020.CS1 maint: archived copy as title (link)
  14. Prabha Chopra (1976). Delhi Gazetteer. The Unit. t. 1078.
  15. Finbarr Barry Flood, 2003, "Pillar, palimpsets, and princely practices" Archifwyd 30 September 2016 yn y Peiriant Wayback., Res, Xliii, New York University, p. 97.
  16. Mittal, J.P. (2006), History of Ancient India (4250 BCE to 637 CE) p. 675, ISBN 978-81-269-0616-1 (This author considers King Agrasen an actual historical figure)
  17. Mukherji, Anisha Shekhar (2002). The red fort of Shahjahanabad. Delhi: Oxford University Press. t. 46. ISBN 978-0-19-565775-3.
  18. "India: Qutb Minar and its Monuments, Delhi" (PDF). State of Conservation of the World Heritage Properties in the Asia-Pacific Region: : Summaries of Periodic Reports 2003 by property, Section II. UNESCO World Heritage Centre. tt. 71–72. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 24 Mai 2006. Cyrchwyd 22 December 2006.
  19. "The Islamic World to 1600: The Mongol Invasions (The Timurid Empire)". Ucalgary.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Awst 2009. Cyrchwyd 7 Medi 2009.
  20. Genocide: a history. W.D. Rubinstein (2004). t. 28. ISBN 978-0-582-50601-5
  21. Mayaram, Shail (2003). Against history, against state: counter perspective from the margins Cultures of history. Columbia University Press. ISBN 978-0-231-12731-8.
  22. "Shifting pain". The Times of India. 11 Rhagfyr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ionawr 2013. Cyrchwyd 18 Mehefin 2012.
  23. "Lutyens' Delhi in race for UN heritage status". Hindustan Times. 11 Mehefin 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2012. Cyrchwyd 18 Mehefin 2012.
  24. Mobilereference (1 Ionawr 2007). Travel Delhi. t. 8. ISBN 978-1-60501-051-9 – drwy Google books.[dolen marw]
  25. Partition (n), 7. b (arg. 3rd). Oxford English Dictionary. 2005. The division of British India into India and Pakistan, achieved in 1947.
  26. "Fall in Delhi birth rate fails to arrest population rise". The Hindu. Chennai. 3 Ionawr 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mehefin 2007. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2006.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Styago la Indiyako, prinjardo andar 22 Yuli, 1947.
Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJammu a KashmirJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliTiriogaeth Genedlaethol DelhiDaman a DiuLakshadweepPuducherry (Pondicherry)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]