Afon Teesta
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rajshahi Division |
Gwlad | India, Bangladesh |
Cyfesurynnau | 27.935408°N 88.163392°E, 25.470242°N 89.667319°E |
Aber | Afon Brahmaputra |
Llednentydd | Afon Rangeet, Afon Lhonak |
Dalgylch | 12,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 470 cilometr |
Arllwysiad | 1,294 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Mae Afon Teesta yn afon yng ngogledd-ddwyrain India.
Mae'r Teesta yn tarddu yn uchel iawn yn Himalaya gogledd Sikkim. Mae'r afon yn rhannu'r dalaith honno yn ddwy ran wrth iddi ddisgyn o'r cymoedd Alpaidd trwy goedwigoedd is-drofaol trwchus a mynd heibio i Mangam a Phodang ac yna Rumtek. Ar y ffin ag Ardal Darjeeling mae Afon Rangeet yn ymuno â hi. Yna mae hi'n mynd heibio i Kalimpong ac yn ymledu'n sylweddol wrth gyrraedd y gwastadiroedd poeth.
Erbyn iddi gyrraedd Jalpaiguri mae hi'n afon lydan ddiog. Tua 50 milltir i'r de o Jalpaiguri mae'n gadael Gorllewin Bengal ac India ac yn llifo i Fangladesh i ymuno ag Afon Brahmaputra ar ei thaith farweddog i'r môr ym Mae Bengal.