Gangtok
Gwedd
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 100,286 |
| Cylchfa amser | UTC+05:30 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gangtok subdivision |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 19.2 km² |
| Uwch y môr | 1,436 metr |
| Cyfesurynnau | 27.33°N 88.62°E |
| Cod post | 737101, Pin Code of Gangtok |
![]() | |

Prifddinas talaith Sikkim yng ngogledd-ddwyrain India yw Gangtok. Ei phoblogaeth yw 85,000 (1999).
Ystyr yr enw Gangtok yn Nepaleg yw "Y Bryn Uchel". Saif ar fryn hir cul, tua 5,300 troedfedd o uchder, rhwng Afon Ranipul i’r gorllewin ac Afon Rongnek i’r dwyrain. Ni wnaethpwyd yn brifddinas — y drydedd yn hanes y wlad ar ôl Yuksom a Rabdentse — tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan nad oedd ond y llys brenhinol ac ychydig o adeiladau eraill yno.
Mae Gangtok wedi datblygu cryn dipyn ers y chwedegau, yn rhannol oherwydd twf ei phoblogrwydd fel canolfan gwyliau gan Fengaliaid dosbarth canol o'r gwastatiroedd, ac erbyn hyn mae’n dref fywiog sy’n ymestyn yn anhrefnus braidd dros lethrau gorllewinol y bryn.
