Bryniau Khasia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bryniau Khasia
East Khasi Hills.jpg
Math Mynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Meghalaya Edit this on Wikidata
Gwlad Baner India India
Uwch y môr 1,200 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 25.58°N 91.63°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd 1,999 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Patkai Edit this on Wikidata
Arwydd yn cofnodi gwlypder eithriadol Cherrapunji

Ardal o fryniau sy'n rhan o gadwyn Garo-Khasi yn nhalaith Meghalaya, gogledd-ddwyrain India, yw Bryniau Khasia (neu Bryniau Khasi). Mae'r bryniau, sy'n gorwedd am y ffin â Bangladesh, yn orchuddiedig â choedwigoedd isdrofannol ac yn gorwedd i'r de-orllewin o Shillong, prifddinas Meghalaya.

Preswylir y bryniau gan y bobl Khasi lleol; gelwir yr ardal yn Fryniau Khasia ar eu hôl. Yng nghyfnod y Raj Brydeinig, rhennid yr ardal yn sawl teyrnas fechan led-annibynnol yn yr hyn a elwir yn Wladwriaethau Bryniau Khasi/Khasia.

Denodd yr ardal genhadwyr o Gymru yn ail hanner y 19eg ganrif - cyrhaeddodd y cenhadwr Methodus Calfinaidd cyntaf yn 1841 - ac yn enwedig yn y 1910au fel un o sgileffeithiau Diwygiad 1904-1905 yng Nghymru, ac mewn canlyniad mae canran uchel o'r trigolion yn Gristnogion.

Cyfrifir un o drefi Bryniau Khasia, sef Cherrapunji, yn un o'r lleoedd gwlypaf yn y byd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • (Saesneg) Welshrevival.org Adolygiad o'r llyfr The Revival in the Khasia Hills gan Mrs John Roberts
Flag of India.svg Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.