Kangchenjunga
Gwedd
| Math | mynydd, mynydd sanctaidd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Khangchendzonga National Park, Kanchenjunga Conservation Area |
| Rhan o'r canlynol | Seven Third Summits |
| Sir | Taplejung District, Sikkim |
| Gwlad | India, Nepal |
| Uwch y môr | 8,586 metr |
| Cyfesurynnau | 27.7°N 88.13333°E |
| Amlygrwydd | 3,922 metr |
| Cadwyn fynydd | Himalaya |
![]() | |
| Deunydd | calchfaen |
Kangchenjunga (Nepaleg:कञ्चनजङ्घा) yw'r trydydd mynydd yn y byd o ran uchder (yn dilyn Mynydd Everest a K2). Kangchenjunga yw'r mynydd uchaf yn India a'r ail-uchaf yn Nepal. Ystyr yr enw Kangchenjunga yw "Pum trysor yr eira", gan fod pum copa i'r mynydd.
Hyd at 1852, credid mai Kangchenjunga oedd y mynydd uchaf yn y byd, ond y flwyddyn honno profwyd fod Everest a K2 yn uwch. Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf gan y mynyddwyr Prydeinig George Band a Joe Brown ar 25 Mai, 1955. O barch i gredoau lleol, arosasant ychydig droedfeddi'n fyr o'r copa ei hun, traddodiad sydd wedi ei barchu gan ddringwyr diweddarach gan mwyaf.
Gellir cael golygfa wych o'r mynydd o Darjeeling ar ddiwrnod clir.
| Y 14 copa dros 8,000 medr |
| Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
| K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |
