Joe Brown
| Joe Brown | |
|---|---|
| Ganwyd | 26 Medi 1930 Manceinion |
| Bu farw | 15 Ebrill 2020 Llanberis |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | dringwr mynyddoedd, dringwr |
| Gwobr/au | CBE |
| Chwaraeon | |
Dringwr a mynyddwr o Sais oedd Joe Brown (26 Medi 1930 – 15 Ebrill 2020).[1] Ganed ef yn Ardwick, Manceinion, a daeth i amlygrwydd fel dringwr yn y 1950au, ym aml yng nghwmni Don Whillans.
Bu'n dringo llawer yn Eryri, yn enwedig ar glogwyni Bwlch Llanberis, yn cynnwys Dinas y Gromlech, a Chlogwyn Du'r Arddu, lle arloesodd nifer o lwybrau enwog. Bu hefyd yn dringo yn yr Alpau a'r Himalaya; yn 1955 ef a George Band oedd y cyntaf i ddringo Kangchenjunga. Yn 1956 dringodd ef ac Ian McNaught-Davis gopa gorllewinol Tŵr Mustagh yn y Karakoram am y tro cyntaf.
Yn 1966 symudodd ef a'i wraig, Val, i bentref Llanberis ac agor siop offer mynydda yno. Ddeng mlynedd yn ddiweddarch, agorodd siop arall yng Nghapel Curig.
Bu farw yn ei gartref yn Llanberis yn 89 oed, wedi salwch.
- Siop Joe Brown yn Llanberis.
- Tu fewn i'r Siop
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Joe Brown, The Hard Years (1967).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Climbing legend Joe Brown has died (en) , Daily Post, 16 Ebrill 2020.