Gasherbrum I
Gwedd
| Math | mynydd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Pacistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Uwch y môr | 8,080 metr |
| Cyfesurynnau | 35.7244°N 76.6964°E |
| Amlygrwydd | 2,155 metr |
| Cadwyn fynydd | Gasherbrum |
![]() | |
Gasherbrum I yw'r 11eg mynydd yn y byd o ran uchder. Weithiau cyfeirir ato fel K5 neu Hidden Peak.
Cafodd Gasherbrum I yr enw K5 fel y pumed copa yn y Karakoram gan T.G. Montgomery yn 1856. Yn 1892, rhoddodd William Martin Conway yr enw Hidden Peak iddo, gan ei fod mor anghysbell.
Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 5 Gorffennaf 1958 pan gyrhaeddodd dau ddringwr o'r Unol Daleithiau, Pete Schoening ac Andy Kauffman, y copa. Yn 1975 cyrhaeddodd Reinhold Messner a Peter Habeler y copa ar hyd llwybr newydd o'r gogledd-orllewin.
| Y 14 copa dros 8,000 medr |
| Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
| K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |
