Makalu
Gwedd
| Math | mynydd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Himalaya |
| Gwlad | Nepal, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Uwch y môr | 8,485 metr |
| Cyfesurynnau | 27.8892°N 87.0886°E |
| Amlygrwydd | 2,378 metr |
| Cadwyn fynydd | Mahalangur Himal |
![]() | |
Mynydd yn yr Himalaya ar y ffin rhwng Nepal a Tibet yw Makalu (मकालु), yn Tsieina yn swyddogol Makaru. Makaru yw'r pedwerydd mynydd yn y byd o ran uchder, ar ôl Mynydd Everest, K2, Kangchenjunga a Lhotse. Saif tua 22 km i'r dwyrain o Fynydd Everest. Mae dau gopa îs yn gysylltiedig â'r mynydd, Kangchungtse neu Makalu II, a Chomo Lonzo,
Dringwyd Makalu gyntaf ar 15 Mai, 1955 gan Lionel Terray a Jean Couzy, aelodau o dîm Ffrengig dan arweiniad Jean Franco. Ystyrir y mynydd yn un o'r rhai anoddaf yn y byd i'w ddringo.
| Y 14 copa dros 8,000 medr |
| Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
| K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |
