Mynydd yn yr Himalaya yn Tibet yw Shishapangma, hefyd Shisha Pangma, Xixabangma neu Gosaithan. Gydag uchder o 8,027 medr, ef yw'r isaf o'r pedwar ar ddeg copa dros 8,000 medr, a'r unig un sydd yn hollol o fewn un wlad; mae pob un arall ar y ffîn rhwng dwy wlad. Saif ym mharc cenedlaethol Langtang.
Dringwyd y mynydd gyntaf yn 1964 gan dîm o Weriniaeth Pobl Tsieina dan arweiniad Xǔ Jìng. Ni ddringwyd ef eto hyd 1980, oherwydd gwaharddiad gan yr awdurdodau Tsineaidd oedd mewn grym hyd 1978. Y dull hawddaf i'w ddringo yw ar hyd yr wyneb gogleddol, ac ystyrir ef yn un o'r hawddaf o'r mynyddoedd wyth mil medr i'w ddringo. Mae ei ddringo o'r de-orllewin yn llawer anoddach.