Neidio i'r cynnwys

Rénmín Rìbào

Oddi ar Wicipedia
Rénmín Rìbào
人民日报
Argraffiad ar 1 Hydref 1949, dyddiad sefydlu Gweriniaeth Pobl Tsieina
MathPapur newydd dyddiol
CyhoeddwrPwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol Tsieina
Sefydlwyd15 Mehefin 1948
IaithTsieineeg (argraffiadau ychwanegol yn Saesneg, Japaneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Rwseg, ac Arabeg)
PencadlysDosbarth Chaoyang, Beijing
Gwefan swyddogolwww.people.com.cn

Papur newydd dyddiol a gyhoeddir yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw Rénmín Rìbào (Tsieinëeg: 人民日报, Cymraeg: Papur Dyddiol y Bobl). Llais Pwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol yw'r papur, ac fe'i gyhoeddir ar draws y byd gyda chylchrediad o 3 i 4 miliwn. Yn ogystal â'i brif argraffiad Tsieineeg, cyhoeddir argraffiadau Saesneg, Japaneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Rwseg, ac Arabeg.

Yn ystod protestiadau Sgwâr Tiananmen ym 1989, cyhoeddodd Rénmín Rìbào erthygl olygyddol i gondemnio gweithredoedd myfyrwyr. Cynyddodd tensiynau rhwng y protestwyr a'r llywodraeth o ganlyniad i'r erthygl hon.