Caradog Jones

Oddi ar Wicipedia
Caradog Jones
Ganwyd1962 Edit this on Wikidata
Pontrhydfendigaid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, dringwr mynyddoedd, fisheries scientist Edit this on Wikidata
PerthnasauSara Ashton Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Mynyddwr o Gymru yw Caradog "Crag" Jones (ganed 1962).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Copa Mynydd Everest

Cymro Cymraeg yw Caradog Jones, a aned ym mhentref Pontrhydfendigaid, ger Tregaron, Ceredigion. Mae'n frawd i'r cymdeithasegydd Shan Jamil Ashton[1]. Yn blentyn, cafodd ei ysbrydoli gan anturiaethau yr arloeswyr cynnar ar Everest, a oedd yn adnabyddus iddo am eu bod wedi ymarfer ar gyfer dringo'r mynydd yn Eryri.[2] O bryd i'w gilydd mae wedi ymddangos ar S4C a siarad ar Radio Cymru am ei anturiaethau ym myd dringo. Mae'n byw yn Lloegr bellach.[1]

Mae wedi bod y cyntaf i ddringo sawl copa o gwmpas y byd, ond mae'n adnabyddus yn bennaf fel y Cymro cyntaf i ddringo Mynydd Everest, mynydd uchaf y byd, camp a gyflawnodd ar y 23ain o Fai 1995, yn 33 oed. Ef oedd y 724fed dringwr i gyrraedd y copa.[3] Esgynodd i'r copa yng nghwmni Michael Knakkergaard-Jorgensen, y Daniad cyntaf i gyrraedd copa Everest, ac fe dreulion nhw hanner awr ar y copa[4].

Tori James oedd y Gymraes gyntaf i gyflwyno'r gamp, a hynny yn 2007.[5]

Crag Jones oedd y cyntaf, neu un o'r cyntaf i ddringo en:Hunza Peak ym mynyddoedd y Karakoram yn 1991. Yn fwy diweddar, ef oedd y cyntaf i ddringo sawl mynydd ar ynys De Georgia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "BBC Radio Cymru - Beti a'i Phobol, Shan Jamil Ashton". BBC. Cyrchwyd 2023-01-08.
  2. The Daily Post, 28.5.2003
  3. Climber Lists: Everest, K2 and other 8000ers
  4. "Y Cymro cyntaf ar gopa Everest 25 mlynedd 'mlaen". BBC Cymru Fyw. 2020-05-21. Cyrchwyd 2023-01-08.
  5. Morgan, Sion (2013-01-31). "Everest: How Tori James defied death to stand where no Welsh woman had stood before". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-08.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.