Voyager 2
Gwedd
| Enghraifft o: | flyby probe |
|---|---|
| Màs | 815 cilogram, 735 cilogram |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Rhan o | Rhaglen Voyager |
| Rhagflaenwyd gan | Voyager 1 |
| Gweithredwr | NASA |
| Gwneuthurwr | Labordy Propulsion Jet |
| Pellter o'r Ddaear | 136.10177437 uned seryddol |
| Gwefan | http://voyager.jpl.nasa.gov/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0810x |

Cerbyd ofod a labordy gwyddonol oedd Voyager 2, un o gyfres o gerbydau archwilio gofod Voyager NASA. Cafodd ei lawnsio ar 20 Awst, 1977, gyda'r bwriad o archwilio systemau planedol Iau a Sadwrn, yn cynnwys eu lloerennau a cylchoedd Sadwrn.

Record Aur
[golygu | golygu cod]Cariodd y roced (fel Voyager 1 o'i blaen) record aur yn llawn o wybodaeth rhag ofn o fodau arallfydol ddod ar ei thraws. Ar y ddisg roedd lluniau o'r Ddaear, anifeiliaid, gwybodaeth gwyddonol a chyfarchion mewn amryw o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg: (Iechyd da i chwi yn awr, ac i'r oesoedd)[1]. Cynhwyswyd arni hefyd synau gwahanol: morfilod, plentyn yn crio, tonnau'r môr ac yn y blaen.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Gymraeg yn y gofod". BBC Cymru Fyw. 15 Medi 2017.