Mercher (planed)

Oddi ar Wicipedia
Mercher

Mercher (symbol: ☿) yw'r blaned agosaf at yr haul gyda'r mas leiaf yng Nghysawd yr Haul. Mae'n trogylchu ar bellter cyfartalog o 58 miliwn cilometr. Cafodd ei henwi gan y Rhufeiniaid ar ôl eu duw Mercher. Mae Mercher yn gorwedd ar gylchdro rhwng 27 a 41 miliwn milltir o'r haul. Wnaeth y chwiliedydd gofod Mariner 10 ymweld â'r blaned yn 1974, yn tynnu lluniau ac yn gwneud arbrofion gwyddonol. Mae'r blaned yn cael ei hastudio ar hyn o bryd gan chwiliedydd NASA o'r enw MESSENGER.

Dylanwadau Astrolegol[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg bod y goel y gall y sêr, y lleuad a'r planedau ddylanwadu ar ein bywydau a'n tynged ni, yn un o goelion hynna'r ddynoliaeth. Ond, ar ben hynny, mae'n syniad sydd wedi dal yn eithriadol o fyw hyd heddiw. Does ond ichi ystyried gwerth blynyddol y 'diwydiant' astrolegol modern a phoblogrwydd colofnau dweud ffortiwn seryddol mewn papurau newydd a chylchgronnau i weld hynny.

Un o hanfodion astroleg yw bod y planedau, fwy neu lai, yn gorwedd ar yr un gwastad wrth iddynt gylchdroi rownd yr haul. Golyga hynny bod llwybrau eu teithiau gofodol, fel maent i'w gweld o'r ddaear, i'w canfod ar hyd gwregys cul o awyr sy'n ymestyn rownd y Ddaear ac o un gorwel i'r llall. Ar hyd y gwregys hwn y gorwedda'r cytserau sy'n ffurfio 12 arwydd y Sidydd fyddant yn cylchdroi yn araf bach uwch ein pennau yn ystod y flwyddyn gan ddylanwadu, yn eu tro, ar dynged bawb a phopeth – yn ôl yr astrolegwyr.

Credant hefyd y bydd y planedau, hwythau, yn dylanwadu arnom gan ddibynnu ar pa arwydd Sidydd y byddent yn digwydd pasio drwyddo ar y pryd, e.e. credir bod Mercher yn rheoli arwyddion yr Efeilliaid (Gemini) yn ystod y dydd a'r Forwyn (Virgo) yn ystod y nos ac yn rhoi huodledd, medrusrwydd a sioncrwydd, yn ogystal ag anwadalwch i'r sawl sydd dan ei ddylanwad.

Mercher – negesydd y duwiau[golygu | golygu cod]

Mae yna wahaniaethau yn yr hyn a welwn o'r ddaear o batrwm symudiad y planedau. Bydd y rhai sy'n bellach na ni o'r haul yn ei hwylio hi'n braf ar draws yr awyr o un cwr i'r llall. Ond fedr Mercher, na Gwenner, sydd rhyngddom ni a'r haul, ddim gwneud hynny. Byddant hwy yn ymddangos am gyfnodau byrrach – yn gynnar ac yn hwyr yn y nos, a Mercher ddim ond am ryw awr ar y mwyaf cyn y wawr ac wedi'r machlud.

Bydd Mercher i'w gweld yn agos at y gorwel yn y gwyll rhwng dydd a nos, yn hebrwng yr haul tuag at oleuni'r wawr neu yn ei ddilyn i'r tywyllwch gyda'r machlud. Mae fel petae'n ffoi rhag y tywyllwch i'r goleuni neu rhag y goleuni i'r tywyllwch. Dim rhyfedd felly i'r blaned fach hon gael ei hystyried gan sawl gwareiddiad yn negesydd y duwiau; yn symyd rhwng goleuni a thywyllwch a rhwng bydoedd y byw a'r meirw i arwain eneidiau i wlad y meirwon. I'r Groegiaid, Hermes oedd ei enw, i'r Babiloniaid – Nabŵ y Doeth ac i'r Eifftiaid – Thoth.

Roedd yn amlwg hefyd bod Mercher yn symyd yn gyflym iawn o'i gymharu â'r planedau eraill. Ac mae hynny'n hollol gywir oherwydd yr agosaf ydych at yr haul y cyflyma ydych chi. Mae Mercher yn teithio tua dwywaith cyflymach na'r Ddaear ac yn cwblhau ei 'flwyddyn' mewn 88 niwrnod. Dyma sy'n cyfri am ei ddelwedd fel rhedwr, wedi ei bortreadu gydag adenydd ar ei fferau a'i helmed.

Ond roedd Mercher hefyd yn gyflym a sgilgar mewn sawl maes. Ef oedd duw cerdd am iddo ddyfeisio'r delyn, a'i fab, Pan, oedd dyfeisydd y 'Pibau Pan' sy'n dwyn ei enw. Roedd yn dduw masnach (tardda ei enw o'r un gwreiddyn a'r gair Saesneg merchant) ac yn dduw lladron a thwyllwyr – am mai ef fyddai'r duwiau yn ei yrru i ddwyn yr hyn fyddai'n amhosib cael gafael arno. Roedd hefyd yn dduw ffraethineb (am ei fod yn slic iawn ei dafod), cyfrwysdra, direidi, gwybodaeth, lwc dda, ffyrdd, teithwyr, dynion ifanc a bugeiliaid. Yn ogystal, roedd ei ffon adeiniog, gyda dwy sarff wedi eu plethu am ei phen, yn arwydd o ffrwythlondeb, iechyd a doethineb.

Mercher y Celtiaid[golygu | golygu cod]

Dywed Iŵl Cesar am y Celtiaid: 'O'r holl dduwiau, maent yn addoli Mercher yn fwy na'r un arall a chanddo ef y mae'r nifer fwyaf o ddelweddau; dywedasant mai ef greodd gelfyddyd a'i fod yn dywysydd ar ffyrdd a siwrneiau, a chredasant mai ef sydd fwyaf dylanwadol i wneud arian a masnach'.

Gwaetha'r modd, ni chofnodwyd enw amgenach iddo gan y Rhufeiniaid na: 'Y Mercher Celtaidd', oedd yr un mor amryddawn a'r un Rhufeinig, ond ei fod yn gallu gweithredu fel duw rhyfel yn ogystal. Caiff ei bortreadu ar allorau ac mewn cerfluniau gyda'i anifeiliaid sanctaidd – ceiliog, gafr (neu hwrdd) a chrwban o gwmpas ei draed. Weithiau mae ganddo dri phen neu dri wyneb, sy'n treblu ei ddoethineb, ac ar y cyfandir fe'i ceid yn aml ar gerfluniau yng nghwmni duwies golud.

Ychydig iawn o'r duwiau Celtaidd sydd ag enwau cydnabyddedig iddynt mewn gwirionedd. Mae'n debyg fod eu gwir enwau yn gyfrin, yn cuddio dan sawl enw amgen fyddai'n amrywio dan wahanol amgylchiadau ac o un llwyth neu gwlt i'r llall. Ond os edrychwn ar y chwedlau Cymreig a Gwyddelig fe welwn bod ambell arwr yn cyfateb yn eitha agos i'r Mercher Celtaidd.

Yn yr Iwerddon gwelwn bod Ogma yn un fersiwn ohono – duw sy'n gysylltiedig â ffraethineb, mae'n fardd ac yn ddyfeisydd yr alffabet Ogam yn ogystal â bod yn hebryngydd eneidiau'r meirwon i'r byd arall.

Ond o'r cyfan, Lleu, neu'r 'Lugh' Gwyddelig, sydd agosa. Os disgrifid Mercher gan y Rhufeiniaid fel 'dyfeisydd pob celf', llysenw Gwyddelig Lugh oedd 'galluog ymhob celf'. Disgrifir hynny yn y stori amdano yn ceisio cael mynediad i wledd fawr yn Tara. A'r porthor yn gwrthod mynediad iddo onibai ei fod yn feistr ar gelf – ni chawsai neb fynediad heb hynny.

Dydd Mercher[golygu | golygu cod]

Cred rhai bod rhai dyddiau'r wythnos yn fwy lwcus neu anlwcus na'i gilydd, a bod dydd Mercher yn sicr yn dod dan ddylanwad y duw y'i galwyd ar ei ôl. Roedd yn ddydd o lwc gymysg, yn dda i ddechrau triniaeth feddygol, sgwennu llythyr, gofyn am ffafr ac i dorri gwinedd eich traed. Ond roedd yn ddydd sal i briodi (byddai eich plentyn yn siwr o fynd i'r crocbren), neu i gychwyn rhywbeth newydd – yn enwedig busnes am y byddai mwy o ladron a thwyllwyr o gwmpas ar ddydd Mercher. Roedd hefyd yn un o ddydiau'r gwrachod, felly rhaid peidio corddi menyn, clymu'r gwartheg am y gaeaf na chwaith gyrru moch – rhag ofn iddynt fynd ar goll. Ac os oedd hi'n gyfnod y lleuad newydd fe fyddai'r agweddau anlwcus hyn o ddydd Mercher yn saith gwaeth!


Planedau yng Nghysawd yr Haul
Mercher
Mercher
Gwener
Gwener
Y Ddaear
Y Ddaear
Mawrth
Mawrth
Iau
Iau
Sadwrn
Sadwrn
Wranws
Wranws
Neifion
Neifion
Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).