Ewropa

Oddi ar Wicipedia
Ewropa
[[File:Europa auf dem Stier.jpg, Raptus Europae.png, Moreau, Europa and the Bull.jpg, Enlèvement d'Europe by Nöel-Nicolas Coypel (detail).jpg, The Abduction of Europa, Jean-François de Troy.jpg, Reni, Guido - Europa and the Bull - Google Art Project.jpg, The Flight of Europa.jpg|280px|upright=1]]
Mathcymeriad chwedlonol Groeg, bod dynol ffuglennol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ewropa a'r tarw. Crochenwaith, Boeotia, Gwlad Groeg, 5ed ganrif CC.
Treisiad Ewropa gan Félix Vallotton.

Ym mytholeg Roeg, roedd Ewropa (Groeg: Ευρωπη Europé; Lladin: Europa) yn dywysoges Ffeniciaidd a gafodd ei herwgipio gan Iau (Zeus) yn rhith tarw a'i chymryd ganddo i ynys Creta, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. Yng ngweithiau Homer, mae Ewropa yn frenhines chwedlonol o Creta, yn hytrach na dynodiad daearyddol, ond dros y canrifoedd daeth Europa yn enw am dir mawr Groeg, ac erbyn 500 CC roedd ei ystyr wedi ehangu i gynnwys gweddill y cyfandir a adnabyddir fel Ewrop heddiw.

Mae chwedl cipio Ewropa gan Iau, a adnabyddir fel rheol fel "Treisiad Ewropa", wedi ysbrydoli nifer o artistiaid a cheir sawl paentiad a llun sy'n ei darlunio.

Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato