Boeotia
Gwedd
| Math | nomau Groeg, Akrata |
|---|---|
| Prifddinas | Λιβαδειά |
| Poblogaeth | 130,768, 109,293, 115,774 |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Gwlad Groeg |
| Arwynebedd | 2,952 km² |
| Cyfesurynnau | 38.44°N 22.88°E |
| Cod post | 32x xx 190 12 |
| GR-03 | |
![]() | |

Tiriogaeth yng Ngroeg yr Henfyd oedd Boeotia, (Hen Roeg: Βοιωτία), a elwir hefyd yn Beotia neu Bœotia, ond sydd nawr yn cael ei adnabod fel Nomos (sir) yn yr un ardal.
Mae Boeotia wedi'i lleoli i'r gogledd o ddwyrain Gwlff Corinth. I'r de, mae'n ffinio ar Attica a Megaris, yn y gogledd ar Locris Opuntiaidd a Chulfor Euripus, ac yn y gorllewin ar Phocis. Ynghanol Boeotia mae Llyn Copais.
Ceir llawer o sôn am Boeotia ym mytholeg Roeg. Yn y cyfnod hanesyddol roedd nifer o ddinasoedd pwysig yma, yn enwedig Thebai, y ddinas mwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Dywedid mai Graia (Γραία) oedd y ddinas hynaf yng Ngroeg. Dinasoedd eraill yma oedd Orchomenus, Plataea, a Thespiae.
