Altocumulus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffurfiad cwmwl Altocumulus

Ffurfia'r altocumulus yn haenau torredig rhwng tua 6,500 a 18,000 troedfedd a cheir sawl math ohonynt. Un o'r ffurfiau mwyaf cyffredin yw nifer fawr o gymylau bychain crwn sydd bron â chyffwrdd ei gilydd, fel praidd o ddefaid yn llenwi'r awyr:

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasgarir y cymylau Altocumulus un ai yn ddi-batrwm fel praidd o ddefaid yn weddol glos at ei gilydd, neu yn rhesi cyfochrog taclus a ddisgrifir fel 'defaid yn dilyn eu llwybrau'. Gall y cymylau hyn ddwysáu nes i'r defaid unigol yn y rhesi glosio a chyffwrdd ei gilydd a chreu llinellau neu resi amlwg, tebyg i'r patrwm rhesog o grychau a welir ar dywod y traeth ar drai. Bryd hynny fe'u gelwir, yn 'draeth awyr' neu 'awyr draeth'. Ar yr uchder canolig hwn (6,500' – 18,000') bydd y llinellau yn weddol fras o'u cymharu â math tebyg ei olwg o draeth awyr a welir yn llawer uwch yn yr awyr (Cirrocumulus) sydd, oherwydd ei uchder, â'i resi yn ymddangos yn gul.

Dywediadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywediadau cyffredin am y patrwm rhesog hwn, boed uchel neu isel, yw:

  • Traeth awyr – glaw drannoeth.
  • Cymylau fel defaid Jeriwsalem – cawodydd (Cwm Gwendraeth)
  • Defaid Jacob – cawodydd (Cwm Tawe). Defaid Jacob am eu bod yn ddeuliw, sef yn dywyll ar eu hochr gysgodol a gwyn yn wyneb yr haul.

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).