Siro-stratws
| Enghraifft o: | math o gwmwl |
|---|---|
| Math | Sirws, stratws, cymylau uchel |
| Gwefan | https://cloudatlas.wmo.int/cirrostratus-cs.html |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/016864 |

Math o gwmwl yw siro-stratws. Daw'r enw o'r Lladin gwyddonol cirro 'cwrl' + stratus 'haen'.[1]
Disgrifiad a dywediadau[2]
[golygu | golygu cod]Nid yw'r siro-stratws yn fwy na haen uchel o niwl tenau a di-ffurf sydd, oni bai am roi rhyw arlliw llwydwyn i lesni'r awyr, bron yn anweledig. Ond am fod hwn yn un o gymylau uchaf yr awyr bydd y gronynnau dŵr ynddo wedi rhewi yn risialau mân. O ganlyniad caiff goleuni'r haul ei hollti gan y crisialau i greu enfys a welir yn gylch o amgylch yr haul, yn enwedig pan fo'n lled isel yn yr awyr – rhyw ddwyawr cyn y machlud neu wedi'r wawr.
Gwelir yr un math o gylch o gwmpas y lleuad llawn yn ogystal er mai cylch gwyn a welir bryd hynny am nad yw adlewyrchiad y lleuad yn ddigon cryf i ffurfio lliwiau. Bydd y 'cylch pell' hwn i'w weld gryn bellter o'r haul neu'r lleuad, ar ongl o 22° neu led llaw agored â'r bawd a'r bysedd ar led. Mae'n wahanol i'r llewyrch lliwiau'r enfys a welir yn cyffwrdd â wyneb y lleuad yn arbennig ac a elwir yn gylch agos. Achosir y cylch agos hwn gan lwch yn uchel yn yr awyr ac mae, fel arfer, yn arwydd o dywydd braf. I wahaniaethu rhwng y ddau fath o gylch, y pell a'r agos, dywedir:
Cylch ymhell, glaw yn agos. Cylch yn agos, glaw ymhell. Cyffredin, de a gogledd. Dywedir: 'Rhod ymhell...' yn y rhigwm hwn yn Ardudwy, a 'Cwmpas pell...' yng Ngheredigion.
Mae hwn yn arwydd eitha sicr – dros 90% cywir[3] – bod ffrynt gref, storm fel arfer, ar ei ffordd. Ceir ambell ddywediad sy'n cyfeirio at y cylch pell o amgylch y lleuad: Cylch am y lleuad, Cawodydd cyn goleuad. (Edern)
Weithiau, yn hytrach na chylch crwn cyflawn am yr haul, gwelir pytiau bychain o enfys ar yr un lefel a'r haul ar bellter o 22° oddi wrtho. Gelwir y rhain yn 'gaseg ddrycin' (Llanbedrog); 'ci drycin' (Gwynedd a Môn); 'cyw drycin'[4].
Galeri
[golygu | golygu cod]- siro-stratws wrth ymyl Łódź, Gwlad Pwyl
- cymylau siro-stratws
- siro-stratws ym mharc Rogalin Landscape yng Ngwald Pwyl
- siro-stratws yn gorchuddio'r haul
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Four Core Types of Clouds | National Oceanic and Atmospheric Administration". www.noaa.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-23. Dyfeisiwyd yr enw cirrostratus ym 1803 gan Luke Howard yn ei draethawd On the Modification of Clouds
- ↑ Gwall cyfeirio: Mae'r
<ref>tag yn annilys neu rhoddwyd iddo enw annilys - ↑ Red Sky at Night, Shepherd's Delight? (1981), Paul Marriot
- ↑ "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2026-07-23.