Cirrocumulus

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cwmwl Cirrocumulus

Bydd Cirrocumulus yn ffurfio clytiau neu haen uchel o gymylau mân sydd, yn aml iawn, wedi eu gosod yn llinellau tebyg i batrwm traeth awyr (Altocumulus).

Dywed Myrddin Fardd amdanynt: 'Taen gymylau llwyd-wyn, un ffunud mewn ffurf ac ymddangosiad ag ôl tonau ar dywod-draeth wedi i'r môr fod yn ymdoni arno dan awel y gwynt, yr hwn yr ystyrid yn flaen-arwydd sicr, gan werin syml y dyddiau fu, fod ystorm gerllaw.[1]

Enwau eraill arnynt yw croen macrell (sy'n cyfateb i'r 'mackrel sky' Saesneg) a ffedog y ddafad yn y de. Maent yn aml yn arwydd bod ffrynt gynnes yn dynesu ac y bydd y tywydd yn dirywio nes ceir glaw ymhen rhyw hanner diwrnod.

Dywediadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Awyr draeth, glaw drannoeth (Llanfair Mathafarn Eithaf)
  • Cymylau traeth – glaw (Ystalafera)
  • Awyr fel croen macrell – gwynt a glaw ymhen chwech awr (Y Bermo)
  • Ffedog y ddafad – glaw cyn bo hir (ar lafar yn y de)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwerin Eiriau Sir Gaernarfon (1907), Myrddin Fardd
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).