John Jones (Myrddin Fardd)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Myrddin Fardd)
John Jones
Myrddin Fardd (ffotograff gan John Thomas)
FfugenwMyrddin Fardd Edit this on Wikidata
Ganwyd1836 Edit this on Wikidata
Llangïan Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1921 Edit this on Wikidata
Chwilog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethgof, bardd Edit this on Wikidata
PlantOwen Gough Jones Edit this on Wikidata
Mam Myrddin Fardd tu allan i'w cartref, Llanbedrog, c.1885

Llenor, casglwr llên gwerin Gymraeg a hynafieithydd o Gymro oedd John Jones (1835 - 27 Gorffennaf 1921), sy'n fwy adnabyddus wrth ei ffugenw llenyddol "Myrddin Fardd".

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cartref Myrddin Fardd yng Nglanywern, Chwilog

Ganwyd John Jones yn nhyddyn Tan-y-Ffordd, Mynytho, plwyf Llangïan, Llŷn, ac fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Llangïan ar 8fed o Fedi 1835, yn fab i John ac Ann Owen. Roedd ei frawd hŷn, Owain, yn ysgolhaig a llenor a dreuliai lawer o amser yn y Llyfrgell Brydeinig tra'n gweithio yn Llundain, yn chwilota am ddeunydd ar gyfer ei erthyglau i gylchgronau fel Y Brython a Golud yr Oes. Etifeddodd John nodiadau ei frawd ar ôl ei farwolaeth yn 1866. Dysgodd ei grefft fel gof yng ngefail Y Pandy, Chwilog. Er na dderbyniodd ond ychydig o addysg (yn Ysgol Elfennol y Foel Gron, Mynytho), roedd yn ymchwilydd brwdfrydig a ymddiddorai yn hanes a thraddodiadau ei fro a'r hen Sir Gaernarfon. Bu farw'n sydyn yn ei gartref yn Chwilog, 27 Gorffennaf 1921 yn 85 oed, ac fe'i claddwyd ym mynwent gyhoeddus Chwilog.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Wynebddalen Llên Gwerin Sir Gaernarfon (Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Caernarfon, d.d.=1908)

Llyfr cyntaf John Jones oedd Golygawd o Ben Carreg yr Imbill, Gerllaw Pwllheli (1858). Ysgrifennodd nifer o erthyglau a phytiau i gylchgronau yn ystod ei oes. Ei gampwaith, efallai, yw Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908). Ymhlith ei lyfrau eraill mae Enwogion Sir Gaernarfon (1922), Adgof Uwch Anghof (1883), Gleanings from God's Acre (1903), Gwerin-Eiriau Sir Gaernarfon (1907). Golygodd hefyd Cynfeirdd Lleyn (1905), cyfrol swmpus sy'n cynnwys gwaith Wiliam Llŷn a beirdd eraill o ardal Llŷn.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

Gwaith Myrddin Fardd[golygu | golygu cod]

  • Golygawd o Ben Carreg yr Imbill, Gerllaw Pwllheli (1858)
  • Adgof Uwch Anghof (1883)
  • Gleanings from God's Acre (1903)
  • (gol.), Cynfeirdd Lleyn (1905)
  • Gwerin-Eiriau Sir Gaernarfon (1907)
  • Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908)
  • Enwogion Sir Gaernarfon (1922)

Llyfrau amdano[golygu | golygu cod]

  • Cybi, Cymeriadau Hynod Sir Gaernarfon (1923).
  • Cybi, John Jones (Myrddin Fardd) (Llandysul, 1945).
  • John Jones yn Y Bywgraffiadur Cymreig

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: