Gof

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gof wrth ei grefft.

Gweithiwr neu grefftwr metel, yn enwedig haearn a dur, yw gof.[1] Rhoddir enwau manwl ar ofaint sy'n trin metelau eraill, megis gof aur, gof arian, gof gwyn (tun), a gof copr, neu sy'n gweithio gyda dyfeisiau metel megis gof cleddyfau, gof gynnau, gof cloeon, a gof angorau.

Byddai gofaint ers yr henfyd yn toddi metel o'r mwyn mewn ffwrnais, fel ei fod yn hydrin ac yn haws ei weithio. Câi'r metel ei ofannu, hynny yw ei ddal yn erbyn eingion gyda gefeiliau a'i daro a'i siapio gyda morthwyl, cŷn, ac offer eraill.

Byddai cenhedloedd gynt yn rhwystro i'r bobl a ddarostyngid ganddynt ddysgu ac arfer crefft y gof, fel na byddai ganddynt arfau i wrthryfela â hwynt. Yn ôl y Beibl, fe wnaed hyn mor fanwl â'r Israeliaid gan y Philistiaid fel "doedd dim gof i'w gael yn holl wlad Israel" (1 Samuel 10:19).[2] Cyfrifid y gof, yn y Cyfreithiau Cymreig, yn un o dri phroffeswyr y celfyddydau breiniol. O'r Oes Haearn hyd y Chwyldro Diwydiannol, gwnaed y mwyafrif o wrthrychau haearn gyr yn y byd wrth law yng ngweithdy'r gof.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  gof. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Mai 2017.
  2. 1 Samuel 13, beibl.net. Adalwyd ar 16 Mai 2017.
  3. (Saesneg) blacksmith. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mai 2017.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.