Efail

Oddi ar Wicipedia
Efail
Mathadeiladwaith pensaernïol, gweithdy Edit this on Wikidata
Rhan ogefail Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gweithdy’r gof yw'r efail (gefail oedd y ffurf wreiddiol ond defnyddir efail yn fwy cyffredin)[1], lle bydd haearn (neu fetel arall) yn cael ei gynhesu er mwyn ei wneud yn haws ei weithio neu ei drin. Ar ôl bod yn y tân i boethi am gyfnod, bydd yr haearn yn cael ei drosglwyddo i'r einion fel arfer, i gael ei forthwylio neu ei siapio mewn rhyw ffordd. Hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr efail yn lle hollbwysig i gael offer neu i fynd i bedoli ceffylau, a byddai efail yn y rhan fwyaf o bentrefi ac ar eu pennau eu hunain hefyd ar ochr y ffyrdd prysuraf. Mae adlais o hynny yn yr enwau llefydd niferus sy'n cynnwys yr elfen 'efail', lle mae pentref cyfan wedi tyfu o gwmpas efail yn y gorffennol, gan gynnwys Efail-wen, Efail Isaf, Efail-fach ac Efailnewydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  gefail. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Ionawr 2023.