Eingion
Jump to navigation
Jump to search

Eingion yn Amgueddfa Werin Cymru.
Offeryn metelwaith yw eingion neu einion sydd ag arwyneb caled i daro gwrthrych arno. Defnyddir yn aml gan y gof, i ofannu metelau. Ceir cyfeiriad at yr einion yn chwedl Culhwch ac Olwen, pan sonia Anifeiliaid Hynaf, sef Mwyalchen Cilgwri iddi rwbio'i phig ar einion am gyhyd, nes ei fod bellach yn ddarn bychan o fetal.
Yr eingion Lydewig[golygu | golygu cod y dudalen]
Math o einion o Lydaw oedd yr einion Llydewig. Gwthid pig yr einion i'r ddaear galed hyd at y 4 cylch. Eistedda'r gof, neu arall, ar y llawr a’r eingion rhwng ei goesau; yna gosodir min y bladur ar y llafn “cunffurf” a‘i daro â morthwyl. Fel hyn mae'n eitha cyfforddus i roi min ar lafn y bladur yn raddol. Modd felly sydd yma i hogi pladur yn y caeau trwy daro yn hytrach na llifo.[2]
Gweler[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Miniogid y bladur trwy daro (rhoddir y pigyn yn y ddaear hyd at y ‘garddwrn’ a threwir llafn y bladur â morthwyl ar y blaen ‘cunffurf’)
- ↑ Dominig Kervegant yn Bwletin Llên Natur 47