Metelwaith

Oddi ar Wicipedia
Metelwaith
Mathproses faterol, maes gwaith Edit this on Wikidata
Rhan opeirianneg gweithgynhyrchu Edit this on Wikidata
Cynnyrchgwaith celf metel Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Defnyddio metel ar durn

Y broses o weithio gyda metelau i greu darnau unigol, cydosodiadau a strwythurau mawr yw metelwaith neu waith metel. Mae'r term yn cynnwys ystod eang o waith, boed yn llongau a phontydd mawr, darnau peiriannau neu emwaith cain. Mae gofyn am ystod eang o sgiliau, prosesau ac offer gwahanol felly.

Gall gwaith metel fod yn wyddor, celf, diddordeb neu fusnes ac mae ganddo hanes o filoedd o flynyddoedd mewn gwahanol ddiwylliannau a gwareiddiadau. Datblygodd gwaith metel o ddargafod mwyndoddi a chynhyrchu metel hydrin a hydwyth ar gyfer offer ac addurniadau. Gellir rhannu'r mwyafrif o brosesau gwaith metel, er eu bod yn wahanol ac arbenigol, yn brosesau ffurfio, torri ac uno. Erbyn heddiw, mae gweithdai periannau'n cynnwys nifer o offer peiriannol sy'n gallu creu darn o waith manwl a defnyddiol.

Eginyn erthygl sydd uchod am feteleg neu fetelwaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.