Llên Gwerin Sir Gaernarfon
Wynebddalen Llên Gwerin Sir Gaernarfon | |
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Myrddin Fardd |
Cyhoeddwr | Gwasg y Cyhoeddwyr Cymreig |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1908 |
Pwnc | Llên Gwerin Cymru |
Argaeledd | allan o brint |
Genre | Casgliad o chwedlau gwerin |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyfrol gan John Jones (Myrddin Fardd) yw Llên Gwerin Sir Gaernarfon. Fe'i cyhoeddwyd gan Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, yn Swyddfa 'Cymru', Caernarfon yn 1908 (ni nodir y dyddiad yn y llyfr).[1] Roedd Myrddin Fardd yn hynafiaethydd brwd ac erys ei gasgliad o hen chwedlau a thraddodiadau Arfon yn ffynhonnell werthfawr i efrydwyr Llên gwerin Cymru, yn enwedig am fod llawer o'r cynnwys yn ffrwyth holi ar lafar mewn cyfnod pan oedd nifer o'r pethau hyn yn fyw o hyd yng nghof y werin bobl.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae'r llyfr yn cynnwys casgliad o chwedlau gwerin ardal yr hen Sir Gaernarfon (gorllewin Sir Conwy a gogledd Gwynedd erbyn hyn), wedi'i hel o sawl ffynhonnell, o hen lyfrau, llawysgrifau ac oddi ar lafar gwlad gan yr awdur, ac wedi'u hadrodd ganddo'n gryno gyda sylwadau ac esboniadau. Ceir hefyd wybodaeth helaeth am arferion, gwyliau, defodau a thraddodiadau. Yn ogystal ceir traddodiadau am darddiad enwau lleoedd, ymadroddion, dywediadau, posau a diarhebion.[1]
Dosberthir y chwedlau yn ôl pwnc, sef:
- Yr Athronyddol
- Y Dull o Fyw
- Chwedlau ac Ofergoelion
- Argoelion
- Ffynhonnau, Llynnau ac Afonydd
- Lleoedd ynghyd â'u henwau
- Chwedlau Arian Cudd
- Hen Gewri
- Geiriau, Dywediadau a Diarhebion
- Dychymygion (posau) ayyb