Cymylau nosloyw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymylau nosloyw a Chomed Neowise o Aberogwen

Cymylau tenau glas golau neu ddi-liw sy’n disgleirio yng nghanol nos yw cymylau nosloyw (noctilucent clouds yn Saesneg).[1] Mae’r gair noctilucent yn tarddio o Ladin, gan olygu disgleirio gyda’r nos. Maent wedi’u ffurfio o grisialau rhew hyd at 100nm mewn diamedr,[2] gan ymddangos fel arfer yn ystod yr haf pan fo’r Haul wedi machlud i’r arsyllydd, ond pan fo’r cymylau yn gallu adlewyrchu golau’r Haul o hyd. Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu bod lefelau cynyddol o fethan yn cynhyrchu anwedd dŵr pan fo’n cyrraedd y mesosffer gan greu neu gryfhau cymylau nosloyw.[3]

Nhw yw’r cymylau uchaf a geir yn atmosffer, yn y mesosffer ar uchder o 76-85 km (47-53 milltir). Nid ydynt i’w gweld yn ystod y dydd oherwydd eu bod rhy wan. Maent fwyaf amlwg rhwng lledredau 50°-65° oherwydd yn agosach i'r Pegynau mae'n rhy olau gyda'r nos yn yr haf.[4]

Nid oes sôn amdanynt cyn 1885, pan ddechreuodd gwyddonwyr Almaenig eu hastudio.[5][6] Maent angen anwedd dŵr a gronynnau llwch i’w ffurfio. Credir mai micro-awyrfeini yw ffynhonell y llwch,[7] ond mae llosgfynyddoedd yn un ffynhonell posibl arall.[8] O bosib, echdoriad Krakatoa oedd wedi cyflenwi llwch i’r mesosffer, gan sbarduno ffurfiant cymylau nosloyw. Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod cymylau nosloyw yn fwyfwy cyffredin oherwydd lefel cynyddol o anwedd dŵr yn yr atmosffer.[9]

Yn 2010 cyrhaeddodd John Rowlands, gwyddonydd amatur o Ynys Môn, rownd terfynol cystadleuaeth ‘So you want to be a scientist’ a gynhaliwyd gan y BBC gyda chynllun i astudio cymylau nosloyw gan ddefnyddio data radar.[10][11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [1]
  2. [2]
  3. [3]
  4. [4]
  5. [5]
  6. Schröder, Wilfried. "On the Diurnal Variation of Noctilucent Clouds". German Commission on History of Geophysics and Cosmical Physics. t. 2457. Cyrchwyd 2008-10-06.
  7. [6]
  8. [7]
  9. [8]
  10. [9]
  11. [10]