Altocumulus lenticularis
Enghraifft o'r canlynol | cloud species |
---|---|
Math | Altocumulus, lenticular |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Perthynas agos i'r cymylau traeth awyr yw yr hyn a elwir yn gymylau gwynt (Altocumulus lenticularis).
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Maent yn hawdd i'w hadnabod am eu bod ar ffurf lens, cneuen almon neu bysgodyn – sy'n cyfri am eu henw llafar 'pysgod awyr'. Ffurfir cymylau lenticularis pan gaiff yr aer ei godi i'r entrychion gan wynt cryf dros fryn neu fynydd.
Bydd y pysgod lenticularis yn ffurfio ar frig ton o aer yn uchel yn yr awyr a pheth pellter yng nghysgod neu y tu ôl i'r mynydd. Maent yn ymddangos fel eu bod yn aros yn eu hunfan ac i'w gweld yn weddol gyffredin mewn ardaloedd mynyddig fel Cymru. Am y gallant fod yn berffaith grwn, weithiau'n unigol ac weithiau'n glwstwr fel nifer o grempogau neu blatiau ar bennau ei gilydd, fe'u camgymerwyd, o bryd i'w gilydd, gan rai am soseri ehedog o'r gofod.
Dywediadau
[golygu | golygu cod]- Cymylau pysgod awyr – storm ar ei ffordd (cyffredin)
- Samons uwchben Bae Caernarfon – tywydd garw (Waunfawr)
- Gleisiaid awyr – storm (Ceredigion). Gleisiad yw eog blwydd oed.