Tir amaethyddol
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Tir a ddefnyddir at ddiben cynhyrchiad amaethyddol, gan gynnwys cnydau a da byw, yw tir amaethyddol. Gellir dosbarthu tir amaethyddol i'r mathau canlynol:
- Tir âr — tir a ddefnyddir i dyfu cnydau blynyddol, megis grawnfwydydd, cotwm, a llysiau.
- Perllannau a gwinllannau — tir a ddefnyddir i dyfu cnydau parhaol, megis ffrwythau a phlanhigfeydd.
- Dolydd a phorfeydd — tir â gweiriau naturiol a ddefnyddir i dda byw bori.