Aderyn to

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Aderyn y To)
Aderyn to
Passer domesticus

,

Ceiliogod
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Passeridae
Genws: Passer[*]
Rhywogaeth: Passer domesticus
Enw deuenwol
Passer domesticus
(Linnaeus, 1758)



Dosbarthiad y rhywogaeth

Rhywogaeth o adar yw aderyn to (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: adar to) neu aderyn y to a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Passer domesticus; yr enw Saesneg arno yw House sparrow. Mae'n perthyn i deulu'r Golfanod (Lladin: Ploceidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn P. domesticus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ne America, Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Mae Aderyn y To yn gyffredin yn Ewrop ac ar draws rhan fawr o Asia, ac mae hefyd wedi ei gyflwyno i Ogledd a De America, Deheubarth Affrica, ac Awstralia a Seland Newydd.

Yn aml iawn mae perthynas glos rhwng yr aderyn to ac anheddau dynol, ac mae'n medru bod yn brin lle mae'r boblogaeth ddynol yn denau. Yn ddiweddar tynnwyd sylw at y ffaith fod niferoedd yr aderyn yma wedi cwympo mewn rhai rhannau o Ewrop, yn enwedig yn nhrefi Lloegr, lle mae'r aderyn to bron wedi diflannu o Lundain. Yng Nghymru ar y llaw arall mae ei niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf.

Iâr
Aderyn to yng Nghymru.
Wyau'r Passer domesticus domesticus

Hanesyddol[golygu | golygu cod]

Dywedir i'r nyth aderyn-to hwn fod o fewn ffram ffenestr (sash window) ers 1896 (y flwyddyn godwyd y tŷ) yn Llanfaglan. Preswylydd y tŷ Frank Jones dynnodd sylw rhaglen Galwad Cynnar (Radio Cymru) iddo.

Nyth aderyn y to wedi ei ddyddio o 1896, yn Llanfaglan, Caernarfon 2012

Cymerodd Kelvin Jones (swyddog Cymru y BTO) y nyth i’w dadansoddi gan arbenigwyr. Tybed pa weiriau oedd ar gael i adar-to yn 1896? Diolch i waith arloesol prifysgolion Cymru, mae DNA holl blanhigion Cymru bellach wedi ei gofnodi gan yr Ardd Genedlaethol, ac fe anfonwyd y nyth iddynt gan obeithio adnabod pob gwelltyn ynddo (mae Prosiect Llên Natur yn aros y canlyniadau o hyd).

Cyn anfon y nyth cafodd y ddau fotanegydd, Nigel Brown a Trefor Dines, gyfle i edrych yn fanwl ar y nyth. Mi oedd TD yn gobeithio buasai rhywfaint o gen neu ffwng wedi sychu arno ond ni fu. Cytunodd y ddau ar y rhestr yma:

Soft Brome Bromus hordeaceus, pawrwellt cyffredin, Crested Dog's tail rhonwellt y ci, Fescue (Red/sheep) peiswellt coch/peiswellt y defaid, Yorkshire fog maswellt penwyn a'r hen rhywogaeth rygwellt [rye].

Meddai TD, “fysai'r rhain yn rhan o hen borfeydd ac yn gyffredin iawn yn yr amser cafodd y nyth ei godi. Mae yna lawer o hadau yn waelod y box a sawl math o wreiddiau.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Adroddiad Kelvin Jones, BTO Cymru
Safonwyd yr enw Aderyn to gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.