Cog
Cog | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cuculiformes |
Teulu: | Cuculidae |
Genws: | Cuculus |
Rhywogaeth: | C. canorus |
Enw deuenwol | |
Cuculus canorus (Linnaeus, 1758) |
Aderyn sy'n aelod o Urdd y Cuculiformes yw'r gog (lluosog: cogau) neu'r gwcw (lluosog: cwcwod) (Cuculus canorus). Enw'r teulu yw Cuculidae (teulu'r cogau).[1][2]
Mae'r gog yn nythu ar draws rhannau helaeth o Ewrop ac Asia, ac yn gaeafu yn Affrica. Un o nodweddion enwocaf yr aderyn yw ei fod yn dodwy ei wyau yn nyth rhywogaeth arall o aderyn, yn arbennig Llwyd y Gwrych, Corhedydd y Waun a Telor y Cyrs. Enw arall ar Gorhedydd y Waun yw "Gwas y Gog". Gall cyw'r gog daflu'r cywion eraill o'r nyth, i sicrhau ei fod ef yn cael yr holl fwyd.
Mae'n aderyn cymharol fawr, llwyd o ran lliw, a gall edrych yn debyg iawn i aderyn ysglyfaethus o gael cipolwg arno'n hedfan. Daw'r enw "cwcw" o alwad yr aderyn.
Er fod y gog yn parhau yn aderyn cymharol gyffredin yng Nghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng dros yr ugain mlynedd diwethaf. Mae'n cyrraedd o Affrica tua chanol Ebrill fel rheol, ac mae clywed y gog yn cael ei ystyried yn arwydd o wanwyn. Caiff Clychau'r Gog eu henw oherwydd eu bod yn blodeuo yn yr un cyfnod.
Llên[golygu | golygu cod y dudalen]
- Wrth glywed y gog yn canu Eira Mawr 17 Mai 1935, canodd y bardd Ioan Brothen[3] ar ol cyfnod o eira hwyr.
- Hynod wrol aderyn - yn y storm
- Cenaist ti heb ddychryn;
- Methodd iâ ac eira gwyn
- Niweidio dy ddau nodyn
- Hynod wrol aderyn - yn y storm
- Ffordd o ddweud....heb ddweud!
- Llwydcoed Notes. BY MARCELLO. Jim declares that he heard the cuckoo late on Saturday night [18 Mawrth 1916]. On the previous Saturday night he had seen two milestones close together on Hirwain Road[4]
Ffenoleg[golygu | golygu cod y dudalen]
Dyma graff yn dangos faint o ddyddiau ar ôl 1af Ebrill y clywyd y gog gyntaf mewn 19 o wahanol flynyddoedd ers 1788. Dengys y llinell wastad trwy’r cofnodion nad oes lot wedi newid.[5]
Roedd Thomas Bewick o Northumberland, a luniodd ysgythriad enwog o'r gog[2], yn arlunio ddechrau’r 19eg ganrif ac yn gwybod, diolch iddo lythyru gyda’r naturiaethwyr mawr o Gymro Thomas Pennant a’r Sais Gilbert White, bod adar yn mudo. Meddai Thomas Bewick: The Cuckoo visits us in spring, the well known cry of the male is commonly heard about the middle of April, and ceases at the end of June: its stay is short, the old birds quitting this country early in July.
Rhai rhywogaethau yn yr un teulu[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cog beunaidd | Dromococcyx pavoninus | |
Cog ddaear adeingoch | Neomorphus rufipennis | |
Cog ddaear bicoch America | Neomorphus pucheranii | |
Cog ddaear dingoch | Neomorphus geoffroyi | |
Cog ddaear gennog y Dwyrain | Neomorphus squamiger | |
Cog ddaear gennog y Gorllewin | Neomorphus radiolosus | |
Cog ffesantaidd | Dromococcyx phasianellus | |
Cwcal aelwyn | Centropus superciliosus | |
Cwcal bach | Centropus bengalensis | |
Cwcal ffesantaidd | Centropus phasianinus | |
Cwcal pen llwydfelyn | Centropus milo | |
Cwcal Swnda | Centropus nigrorufus | |
Rhedwr | Geococcyx californianus | |
Rhedwr bychan | Geococcyx velox |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Ericson, P.G.P. et al. (2006) Diversification of Neoaves: integration of molecular sequence data and fossils. Biology Letters, 2(4):543–547
- ↑ Hackett, S.J. (2008). "A Phylogenomic Study of Birds Reveals Their Evolutionary History". Science 320 (5884): 1763–1768. doi:10.1126/science.1157704. PMID 18583609.
- ↑ Llinell neu Ddwy (cyfrol deyrnged Ioan Brothen 1942)
- ↑ Aberdare Leader 25 Mawrth 1916
- ↑ Seiliedig ar ddata Tywyddiadur Llên Natur[1]