Neidio i'r cynnwys

Gwybedog brith

Oddi ar Wicipedia
Gwybedog brith
Ficedula hypoleuca

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Muscicapidae
Genws: Ficedula[*]
Rhywogaeth: Ficedula hypoleuca
Enw deuenwol
Ficedula hypoleuca
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwybedog brith (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwybedogion brithion) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Ficedula hypoleuca; yr enw Saesneg arno yw Pied flycatcher. Mae'n perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn F. hypoleuca, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r Gwybedog Brith yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara. Ceir pedwar rhywogaeth o Wybedogion Ficedula yn y rhan yma o'r byd, ac mewn rhai gwledydd gall fod angen gofal i wahaniaethu rhyngddynt. Mae'r aderyn yn 12–13 cm. o hyd, ac mae'r ceiliog yn aderyn du a gwyn tarawiadol; du ar y cefn, gwyn ar y bol a chyda darn gwyn amlwg ar yr adenydd, tra bod gan yr iâr frown golau yn lle du ar y cefn.

Adeiledir y nyth mewn coedydd, ac mae'n arbennig o hoff o goedydd derw, a choedydd lle nad oes llawer o dyfiant islaw'r coed. Adeiledir y nyth mewn tyllau yn y coed neu mewn blychau nythu lle darperir y rhain.

Ystyrir y Gwybedog Brith yn un o adar nodweddiadol Cymru, yn enwedig yn y coedydd derw sy'n tyfu ar y llethrau.

Mae'r gwybedog brith yn perthyn i deulu'r Gwybedogion (Lladin: Muscicapidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Adeinfyr torwyn Sholicola major
Brych craig byrfys Monticola brevipes
Brych craig corunlas Monticola cinclorhyncha
Monticola cinclorhynchus
Brych craig cyffredin Monticola saxatilis
Brych craig glas Monticola solitarius
Cynffonlas ystlysgoch Tarsiger cyanurus
Robin gynffonfforchog bach Enicurus velatus
Robin prysgoed dorchog Tarsiger johnstoniae
Robin-grec torwyn Dessonornis humeralis
Robin-grec y Penrhyn Dessonornis caffer
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Safonwyd yr enw Gwybedog brith gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.