Gwyddoniaeth y Dinesydd

Oddi ar Wicipedia
Scanning the cliffs near Logan Pass for mountain goats (Citizen Science) (4427399123).jpg
Data cyffredinol
Mathtorfoli, gwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dull o roi'r dinesydd cyffredin ar waith i gasglu data sydd yn wyddonol ddilys am y byd yw Gwyddoniaeth y Dinesydd. Dyma ganllawiau'r European Citizen Science Association.[1]

Deg egwyddor sy’n perthyn i wyddoniaeth y dinesydd[golygu | golygu cod]

Cysyniad hyblyg y gellir ei addasu a’i ddefnyddio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a disgyblaethau yw gwyddoniaeth y dinesydd. Cafodd y datganiadau isod eu datblygu gan weithgor ‘Rhannu arferion gorau a meithrin gallu’ yr European Citizen Science Association, dan arweiniad y Natural History Museum yn Llundain gyda chyfraniadau gan sawl aelod o’r Gymdeithas, a hynny er mwyn pennu rhai o’r egwyddorion allweddol sydd, yn ein barn ni fel cymuned, yn sylfaenol i arferion da mewn gwyddoniaeth y dinesydd.

1. Mae prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd yn cynnwys dinasyddion mewn ymdrechion gwyddonol sy’n esgor ar wybodaeth neu ddealltwriaeth newydd. Gall dinasyddion fod yn gyfranwyr, yn gydweithwyr, neu’n arweinwyr prosiectau a rhaid iddynt fod â rôl arwyddocaol yn y prosiect.

2. Mae prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd yn esgor ar ganlyniadau gwyddonol dilys. Er enghraifft, ateb cwestiwn ymchwil neu gyfarwyddo camau cadwraethol, penderfyniadau rheoli neu bolisïau amgylcheddol.

3. Mae gwyddonwyr proffesiynol a gwyddonwyr ‘dinasyddion’ yn elwa ar gymryd rhan. Gall y manteision gynnwys cyhoeddi canlyniadau gwaith ymchwil, cyfleoedd dysgu, mwynhad personol, manteision cymdeithasol, boddhad o gyfrannu at dystiolaeth wyddonol e.e. ar gyfer ymdrin â materion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a thrwy hynny, y potensial o ddylanwadu ar bolisïau.

4. Os dymunant, gall gwyddonwyr ‘dinasyddion’ gymryd rhan mewn amryfal gamau yn y broses wyddonol. Gall hyn gynnwys datblygu’r cwestiwn ymchwil, cynllunio’r dull, casglu a dadansoddi data, a chyfleu’r canlyniadau.

5. Mae gwyddonwyr ‘dinasyddion’ yn cael adborth yn sgil y prosiect. Er enghraifft, sut y caiff eu data ei ddefnyddio a beth yw canlyniad y gwaith ymchwil neu’r polisi, neu’r canlyniad cymdeithasol.

6. Caiff gwyddoniaeth y dinesydd ei ystyried yn ddull ymchwil fel unrhyw un arall, gyda chyfyngiadau a rhagfarnau y dylid eu hystyried a’u rheoli. Fodd bynnag, yn wahanol i ddulliau ymchwilio traddodiadol, mae gwyddoniaeth y dinesydd yn cynnig mwy o gyfle i ymgysylltu â’r cyhoedd ynghyd â sicrhau bod gwyddoniaeth yn fwy democrataidd.

7. Caiff data a metadata prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd eu rhyddhau i’r cyhoedd a, phan fo modd, caiff y canlyniadau eu cyhoeddi mewn fformat mynediad agored. Efallai y bydd data’n cael ei rannu yn ystod, neu ar ôl, y prosiect, oni bai bod pryderon ynghylch diogelwch neu breifatrwydd yn rhwystro hyn rhag digwydd.

8. Caiff gwyddonwyr ‘dinasyddion’ eu cydnabod yng nghanlyniadau a chyhoeddiadau’r prosiectau.

9. Caiff rhaglenni gwyddoniaeth y dinesydd eu gwerthuso ar sail eu canlyniadau gwyddonol, ansawdd eu data, y profiad a roddant i’r cyfranogwyr a’u heffeithiau ehangach o safbwynt y gymdeithas neu bolisïau.

10. Mae arweinwyr prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd yn ystyried materion cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â hawlfraint, eiddo deallusol, cytundebau rhannu data, cyfrinachedd, priodoliad, ac effeithiau amgylcheddol unrhyw weithgareddau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-06-12. Cyrchwyd 2020-06-12.