Neidio i'r cynnwys

Cogau

Oddi ar Wicipedia
Cogau
(teulu o adar)
Amrediad amseryddol:
Ëosen - Holosen, 34–0 Ma
Cog Guira (Guira guira)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Cuculiformes
Teulu: Cuculidae
Teiprywogaeth
Crotophaga ani
Linnaeus, 1758
Genera

Around 26, see text.

Cân un o gogalu yn Bangalore, India

Teulu o adar ydy'r cogau (Lladin: Cuculidae, yr unig dacon yn yr urdd Cuculiformes.[1][2][3]

Mae'r teulu'n cynnwys y Gog cyffredin (Cuculus canorus), y Rhedwr (Geococcyx californianus), y Cöel (Eudynamys scolopacea), y Malkoha, y coaid (e.e. y Coa glas) a'r Anïaid (e.e. yr anïaid llyfnbig).

Adar main o faint canolig ydy'r cogau. Mae'r rhan fwyaf yn byw mewn coed, gydag ychydig o'r teulu'n byw ar y llawr neu'r ddaear. Maen nhw wedi'u dosbarthu ledled y Ddaear, ond mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n drofannol. Pryfaid yw eu bwyd arferol, a mân anifeiliaid eraill yn ogystal â ffrwyth. Mae llawer ohonyn nhw'n barasytig - yn dodwy eu hwyau yn nythod adar eraill; mae llawer ohonyn nhw, fodd bynnag, yn magu eu cywion eu hunain.

Teuluoedd

[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

teulu enw tacson delwedd
Ani llyfnbig Crotophaga ani
Cog beunaidd Dromococcyx pavoninus
Cog bigddu Coccyzus erythropthalmus
Cog ddaear adeingoch Neomorphus rufipennis
Cog ddaear bicoch America Neomorphus pucheranii
Cog ddaear dingoch Neomorphus geoffroyi
Cog ddaear gennog y Dwyrain Neomorphus squamiger
Cog ddaear gennog y Gorllewin Neomorphus radiolosus
Cog fadfallod Puerto Rico Coccyzus vieilloti
Cog fadfallod fawr Coccyzus merlini
Cog ffesantaidd Dromococcyx phasianellus
Cog mangrof Coccyzus minor
Cog resog Tapera naevia
Cwcal aelwyn Centropus superciliosus
Cwcal ffesantaidd Centropus phasianinus
Cwcal pen llwydfelyn Centropus milo
Rhedwr Geococcyx californianus
Rhedwr bychan Geococcyx velox
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]