Colomen graig
| Colomen graig Columba livia | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Columbiformes |
| Teulu: | Columbidae |
| Genws: | Columba[*] |
| Rhywogaeth: | Columba livia |
| Enw deuenwol | |
| Columba livia | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Colomen graig (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: colomennod craig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Columba livia; yr enw Saesneg arno yw Feral rock pigeon. Mae'n perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae) sydd yn urdd y Columbiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. livia, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Maent yn byw mewn cynefinoedd creigiog ar draws Ewrop, rhannau o Asia a gogledd Affrica. Mae Colomennod Dof yn tarddu o Golomen y Graig. Mae llawer o adar dof wedi dianc i'r gwyllt gan ffurfio poblogaethau o Golomennod y Dref sydd wedi ymgartrefu mewn dinasoedd a threfi ac ar glogwyni ledled y byd. Mae Colomennod y Dref wedi disodli'r adar gwyllt mewn rhai rhanbarthau megis Cymru.[3]

Mae Colomen y Graig yn 31–34 cm o hyd ac mae'n pwyso 230-370 g.[4] Mae adar gwyllt yn llwydlas gyda chrwmp gwyn a dwy linell ddu ar yr uwch-adain.[5] Mae Colomennod Dof a Cholomennod y Dref yn amrywio'n fawr o ran lliw.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r colomen graig yn perthyn i deulu'r Colomennod (Lladin: Columbidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Colomen mynydd gynffonhir | Gymnophaps mada | |
| Colomen mynydd lygadfoel | Gymnophaps albertisii | |
| Colomen mynydd welw | Gymnophaps solomonensis | |
| Colomen werdd Affrica | Treron calvus | |
| Colomen werdd Pompadour | Treron pompadora | |
| Colomen werdd Taiwan | Treron formosae | |
| Colomen werdd Timor | Treron psittaceus | |
| Colomen werdd benfrown | Treron fulvicollis | |
| Colomen werdd bigbraff | Treron curvirostra | |
| Colomen werdd fawr | Treron capellei | |
| Colomen werdd gynffonletem | Treron sphenurus | |
| Colomen werdd lostfain Swmatra | Treron oxyurus | |
| Colomen werdd lostfain dinfelen | Treron seimundi |

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Lovegrove, Roger; Graham Williams & Iolo Williams (1994) Birds in Wales, T & A D Poyser, Llundain.
- ↑ Snow, D. W. & C. M. Perrins (1998) The Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 1, Oxford University Press, Rhydychen.
- ↑ Hayman, Peter; Rob Hume & Iolo Williams (2004) Llyfr Adar Iolo Williams - Cymru ac Ewrop, Gwasg Carreg Gwalch.











