Hwyaden

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hwyaid
Hwyaden Wyllt (Anas platyrhynchos)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae (rhan)
Is-deuluoedd

Dendrocygninae
Thalassorninae
Stictonettinae
Tadorninae
Anatinae
Aythyinae
Merginae
Oxyurinae

Aderyn dŵr cyfandroed yw hwyaden, hwyad neu yng ngogledd Cymru: chwaden. Mae dros 120 o rywogaethau ledled y byd. Maen nhw'n perthyn i'r teulu Anatidae ynghyd ag elyrch a gwyddau.[1] O ran maint mae'r hwyaden ychydig yn llai na'r alarch a'r ŵydd - ill dau hefyd yn aelodau o'r un teulu, Anatidae.

Eu cynefin arferol yw dŵr a thir gwlyb. Mae nhw'n medru byw mewn dŵr hallt a dŵr croyw.[1]

Hen Benillion[golygu]

Ceir nifer o hen benillion Cymraeg sy'n sôn am chwiaid:

Difyr yw hwyaid yn nofio ar y llyn,
Eu pigau sy'n gochion a'u plu sydd yn wyn.
Rhônt ddeudro neu drithro yn fywiog a chwim.
Beth bynnag a welant, ni ddwedant hwy ddim.

Gellir dweud, fodd bynnag, fod y pennill hwn yn sôn mwy am bobl nag am hwyaid!

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
Bird template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am hwyaden
yn Wiciadur.