Troellwyr
Gwedd
| Troellwyr | |
|---|---|
| Cudylldroellwr, Chordeiles minor, a Whiparwhîl, Caprimulgus vociferus | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Caprimulgiformes |
| Teulu: | Caprimulgidae |
| Isdeuluoedd | |
| |
| Dosbarthiad | |
Teulu o adar hwyrol yw Troellwyr (Lladin: Caprimulgidae). Mae ganddyn nhw dair nodwedd sy'n gyffredin: adenydd hir, coesau byr a phigau byr. Maent yn nythu ar wyneb y ddaear yn hytrach na mewn coed. Fel arfer, pan sonia Cymro am Droellwr, mae'n cyfeirio at y Troellwr mawr.
Y gair Lladin am berson neu anifail sy'n sugno tethi gafr yw Caprimulgus a chredai'r hen Rufeiniaid fod aelodau'r teulu hwn yn yfed llaeth geifr. A dyna sut y cawsant yr enw gwyddonol. Gelwir rhai o Droellwyr y Byd Newydd yn 'Gudylldroellwyr.
Mae'r Troellwyr i'w canfod ledled y byd. Maen nhw'n hedfan yn y cyfnos neu yn y bore bach ac yn bwyta pryfaid mawr fel gwyfynnod.
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Eleothreptus candicans | Eleothreptus candicans | |
| Hebogdroellwr bach | Siphonorhis brewsteri | |
| Hebogdroellwr cyffredin | Nyctidromus albicollis | |
| Troellwr adeingrymanog | Eleothreptus anomalus | |
| Troellwr brown | Veles binotatus | |
| Troellwr cynffondelyn y de | Macropsalis forcipata | |
| Troellwr cynffondelyn y gogledd | Uropsalis lyra | |
| Troellwr cynffonsiswrn y gogledd | Uropsalis segmentata | |
| Troellwr torchog | Gactornis enarratus | |
| Whiparwhîl bach | Phalaenoptilus nuttallii | |
| Whiparwhîl clustiog | Nyctiphrynus mcleodii | |
| Whiparwhîl tywyll | Nyctiphrynus ocellatus | |
| Whiparwhîl Yucatan | Nyctiphrynus yucatanicus |
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.









