Hirundinidae
Jump to navigation
Jump to search
Hirundinidae (Teulu'r Wennol) | |
---|---|
![]() | |
Gwennol dingoch | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Is-urdd: | Passeri |
Teulu: | Hirundinidae Vigors, 1825 |
Genera | |
Ceir 19 genws |
Teulu o adar ydyw Hirundinidae (neu Gwenoliaid yn Gymraeg); mae'r Wennol Ewropeaidd (Hirundo rustica) yn cael ei hadnabod ar lafar yng Nghymru fel 'Gwennol'. Un peth sy'n gyffredin rhwng aelodau gwahnol y teulu yw eu bod i gyd yn bwyta ar yr adain h.y. tra'n hedfan.
Mae'r teulu'n cynnwys dau is-deulu: y Pseudochelidoninae o'r genws Pseudochelidon a'r Hirundininae. Mae'r teulu Hirundinidae yn cynnwys cyfanswm o 19 genws.
Mae aelodau'r teulu - y gwenoliaid - i'w cael ledled y byd, ym mhob cyfandir ar wahân i Antartig. Credir bellach i'r teulu esblygu yn wreiddiol yn Affrica ac yno mae'r amrywiaeth mwyaf ohonynt i'w weld heddiw. Mae rhai o'r teulu'n meudwyo.
Rhywogaethau o fewn y teulu[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhestr Wicidata:
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gwennol Magellan | Progne modesta | |
Gwennol bondo Asia | Delichon dasypus | |
Gwennol borffor | Progne subis | |
Gwennol coed America | Tachycineta bicolor | |
Gwennol euraid | Tachycineta euchrysea | |
Gwennol mangrôf | Tachycineta albilinea | |
Gwennol resog India | Petrochelidon fluvicola | |
Gwennol werdd | Tachycineta thalassina | |
Gwennol y Bahamas | Tachycineta cyaneoviridis | |
Gwennol y bondo | Delichon urbicum |
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.