Gwennol y glennydd
| Gwennol y glennydd Riparia riparia | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Hirundinidae |
| Genws: | Riparia[*] |
| Rhywogaeth: | Riparia riparia |
| Enw deuenwol | |
| Riparia riparia | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Gwennol y glennydd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: gwenoliaid y glennydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Riparia riparia; yr enw Saesneg arno yw Sand martin. Mae'n perthyn i deulu'r Gwenoliaid (Lladin: Hirundinidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae hefyd i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn R. riparia, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop ac Affrica. Mae'n aderyn mudol, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n treulio'r gaeaf yn nwyrain a de Affrica, de Asia a De America. Mae Gwennol y Glennydd yn aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae'n un o'r adar mudol cyntaf i ddychwelyd yn y gwanwyn.
Mae'r aderyn tua 12 cm o hyd ac mae ganddo blu brown ar y cefn a gwyn ar ei fol, gyda brown ar draws y fron. Fel rheol mae nifer ohonyn nhw'n nythu gyda'i gilydd, mewn tyllau mewn clogwyni o dywod neu raean.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r gwennol y glennydd yn perthyn i deulu'r Gwenoliaid (Lladin: Hirundinidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Gwennol | Hirundo rustica | |
| Gwennol adeinfraith | Hirundo leucosoma | |
| Gwennol afon Affrica | Pseudochelidon eurystomina | |
| Gwennol Angola | Hirundo angolensis | |
| Gwennol gynffonwen | Hirundo megaensis | |
| Gwennol las a gwyn | Pygochelidon cyanoleuca | |
| Gwennol lostfain | Hirundo smithii | |
| Gwennol ludlwyd | Orochelidon murina | |
| Gwennol y Dwyrain | Hirundo tahitica | |
| Gwennol yddfbinc | Orochelidon flavipes | |
| Gwennol yddfwen y De | Hirundo albigularis | |
| Gwennol yr Andes | Orochelidon andecola | |
| Pygochelidon melanoleuca | Pygochelidon melanoleuca |
Cofnodion unigol
[golygu | golygu cod]- Trefedigaeth o 44 twll-nyth yn y clai clog ar ben Bwlch Rhwyddfor yn chwarel Bwlch Llyn Bach[3] Welish i erioed rhai wedyn (DB). Datblygodd 1976 yn haf eithriadol o boeth a sych.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Llyfr Maes DB











