Iâr (ddof)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Galloanserae)
Jump to navigation Jump to search
Iâr (ddof)
Amrediad amseryddol:
Cretacaidd cynnar– Holosen
105–0 Miliwn o fl. CP
[1]
Ceiliog a iâr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasanidae
Genws: Gallus
Rhywogaeth: G. gallus
Enw deuenwol
Gallus gallus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Gallus gallus domesticus

Aderyn a gedwir ar gyfer ei wyau a'i chig yw'r iâr ddof (Gallus gallus, weithiau G. gallus domesticus).

Credir ei fod wedi datblygu o ddwy rywogaeth o iâr wyllt a geir yn India a De-ddwyrain Asia, Ceiliog coedwig coch (Gallus gallus) a'r Ceiliog coedwig llwyd (Gallus sonneratii). Dim ond y fenyw sy'n "iâr" mewn gwirionedd, tra cyfeirir at y gwryw fel "ceiliog", ond cedwir llawer mwy o'r ieir nag o geiliogod.

Mae'r adar hyn yn perthyn i un o ddwy urdd, o ran dosbarthiad gwyddonol: ieir y tir (Galliformes) a ieir ddŵr(Anseriformes). Mae'r astudiaeth ddiweddaraf o'u hanatomeg a'u genynnau'n dangos fod y ddau fath yn perthyn yn agos iawn at ei gilydd. Gyda'i gilydd, mae'r ddwy urdd yn creu cytras (clade): Galloanserae, a arferid ei galw'n 'Galloanseri' ac yn 'retrotransposon'.[2] This clade is also supported by morphological and DNA sequence data[3][4]

Mae'r iâr yn un o'r anifeiliaid dof mwyaf niferus, gyda tua 24 biliwn yn cael eu cadw trwy'r byd.

Ceir nifer o hen bennillion a chaneuon traddodiadol sy'n cyfeirio ati:

Mae gen i iâr a cheiliog
A brynais ar ddydd Iau,
Mae'r iâr yn dodwy ŵy bob dydd
A'r ceiliog yn dodwy dau.
Hen iâr fach bert
Yw fy iâr fach i
Un pinc a melyn
A choch a du,
Fe aeth i'r cwt
I ddodwy wy
Ond cododd ei chwt-cwt-cwt
Ac i ffwrdd â hi.

Cyw iâr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cywion ieir newydd eu lladd a'u pluo.

Lleddir cywion ieir ar gyfer y ford. Gwneir hyn fel arfer gydag ieir a fagwyd mewn ffatrioedd (neu "fatris") ond ceir hefyd gywion ieir llygad yr haul neu free range, gyda chanran bychan ohonyn nhw hefyd yn organig. Un o'r ymgyrchwyr cryfaf dros gig llygad yr haul, organig ydy Hugh Fearnley-Whittingstall [5][6] drwy'i raglen deledu River Cottage.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen drefn cadw ieir[golygu | golygu cod y dudalen]

Erthygl heb ei golygu gan Gwilym T. Jones ("Gwilym Ty Crwn") a ysgrifennwyd yn 2018 ac a gasglwyd gan Wil Williams[7]

Cadw ieir yn Ty Crwn, Bodorgan, 1955-1962. Yn 1955 penderfynwyd i gadw ieir ar gyfer cynyrchu wyau i’w gwerthu. Codwyd cwt pwrpasol i’w cartrefu. Cwt o frics a to asbestos , tua 27 troedfedd wrth 15 troedfedd, gyda llawr o gonctit . Yr oedd iddo drws a tair ffenast, clwydi a blychod iddynt ddodwy eu wyau. Prynu 100 o gywion mis oed o Finney Bros, oedd yn cael eu gyrru mewn bocsus cardboard i Station Bodorgan.

Pryd hynny roedd chwech yn gweithio yn y station: y Station Feistr, un clerc, dau borter a dau signalman. Erbyn heddiw, does neb yn y station i dderbyn bocsus o gywion na dim byd arall ran hynny. Brid yr ieir oedd 50 o Rhode Island Red (ddim y rhai gorau am ddodwy ond yn pwyso mwy pan ddoi’n amser eu gwerthu) a 50 o White Legorn (gwell am ddodwy ond yn ysgafnach iar). Cadw’r ieir i mewn ar Deep Litter*, sef haen o wellt ceirch ar lawr y cwt. Ychwanegwyd haen newydd i gadw’r llawr yn lan, fel bo’r galw.

Roeddent yn cael eu bwydo i ddechrau ar ‘growers pellets’, ac wedyn ar ‘layers pellets’ pan ar fin dechrau dodwy (ar ôl tua chwe mis neu gynt). Jones o Valley oedd yn cyflenwi bwyd yr ieir. Lever oedd y cynyrchwyr y bwyd. Ychwanegwyd ‘grit’ hefyd oedd yn cynorthwyo treilio’r bwyd ac i sicrhau eu bod yn cael cyflenwad digonol o galsiwm. A cyflenwad o ddŵr glan, wrth gwrs.

Pryd hynny Gwilym Jones o Rhosmeirch oedd ein ‘dyn wyau ni’ - yn dod i nol y wyau bob wythnos. Byddem yn rhoi y wyau i ddechrau mewn ‘tray’ oedd yn dal dau ddwsin a hanner o wyau (6x5=30) fel heddiw. Trosglwyddwyd y ‘trays’ i focs pren ysgafn ddaliai 30 dwsin o wyau - chwech ‘tray’ bob ochr o’r bocs, (dau ddwsin a haner x 2x6=30 dwsin). Ar ol peth amser, cai’r wyau eu gradeioyn ol eu maint: large, medium, standard a small. Ar ol eu cadw i ddodwy am tua blwyddyn byddent yn cael eu gwerthu.

Byddai dyn o’r enw Zimba o Llanerchymedd (o Wlad Pwyl yn wreiddiol) yn dod i’w nol ac yn talu swllt a thair ceiniog y pwys, a’r pris yn dod o fewn chwe swllt i saith swllt yr iar. Credir i’r ieir wedyn gael eu lladd a’u gwerthu i hotels drwy ogledd Cymru. Byddai cofnodion o’r holl gostau a’r derbyniadau yn cael eu cadw. Disgwylir gael ‘cyflog’ o £1 y iar- sef £100 y flwyddyn - ‘cyflog’ derbyniol iawn yn y cyfnod hwnnw.

Yn 1962 newidiodd amgylchiadau a rhoddwyd y gora iddi i gadw ieir.*

Deep Litter. Gweler Wikipedia am hanes deep litter.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Van Tuinen M. (2009) Birds (Aves). In The Timetree of Life, Hedges SB, Kumar S (eds). Oxford: Oxford University Press; 409–411.
  2. Sibley, C, Ahlquist, J. & Monroe, B. (1988)
  3. Chubb, A. (2004)
  4. Kriegs et al. (2007)
  5. BBC (2012). "Food Chefs: Hugh Fearnley-Whittingstall". BBC. BBC. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2012-07-21. https://archive.is/EQts. Adalwyd 30 Gorff. 2012.
  6. "Hugh Fearnley-Whittingstall Profile". The Guardian (London). 3 Hydref 2007. http://commentisfree.guardian.co.uk/hugh_fearnleywhittingstall/profile.html. Adalwyd 28 Mai 2008.
  7. Williams, W. (2018) ebost personol i D. Brown